萝莉视频

Gwobr Ymchwil Genedlaethol Iechyd Meddwl Pobl Ifanc CBSeic Cymru 2024/25

Newyddion Cymru
05 September 2025

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod Jess Groves, disgybl blwyddyn 10 o Ysgol Santes Ffraid, Dinbych, wedi ennill Gwobr Ymchwil Genedlaethol Iechyd Meddwl Pobl Ifanc CBSeic Cymru 2024/25.

Archwiliodd prosiect Jess effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc, gan ganolbwyntio ar sut mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi'u cynllunio i fod yn gaethiwus.

Ar ?l cynnal arolwg o bobl ifanc rhwng 15 a 22 oed yn ei chymuned leol, canfu Jess y gallai lleihau defnydd o gyfryngau cymdeithasol hamdden o ddim ond 1–3 awr y dydd leihau problemau iechyd meddwl yn sylweddol.

Tynnodd ei hymchwil sylw hefyd at ffyrdd y gallai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gefnogi pobl ifanc yn well, gan argymell bod cwmn?au'n blaenoriaethu grwpio cynnwys iau, addas i'r oedran sy'n fwy ystyriol a chadarnhaol.

Dywedodd Dafydd Huw, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus CBSeic Cymru:

"Rydym yn hynod falch o longyfarch Jess ar y cyflawniad rhagorol hwn. Mae ei hymchwil yn taflu goleuni ar un o'r materion mwyaf dybryd sy'n wynebu pobl ifanc heddiw ac yn cynnig atebion ymarferol a allai wneud gwahaniaeth i lesiant. Mae'r wobr hon yn dathlu ei gwaith caled ac yn tynnu sylw at werth gwrando ar leisiau ifanc mewn ymchwil iechyd meddwl."

Mae ymchwil Jess ar gael i'w ddarllen yma.

Mae’r Wobr Ymchwil Genedlaethol Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn fenter gan CBSeic Cymru i hyrwyddo ymchwil, arloesedd ac ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl ledled y wlad.

Bob blwyddyn, mae'r wobr yn cydnabod gwreiddioldeb ac ansawdd cyflwyniad ymchwil gan bobl ifanc, gan eu hannog i archwilio a rhannu eu syniadau ar faterion iechyd meddwl pwysig.

Bydd mynegiadau o ddiddordeb ar gyfer gwobr 2025/26 yn agor maes o law. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan CBSeic Cymru.

For further information, please contact: