Anhwylder sgitsoaffeithiol
Schizoaffective disorder
Below is a Welsh translation of our information resource on schizoaffective disorder. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd ? phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn salwch meddwl difrifol a all effeithio ar brofiad pobl o¡¯r byd o¡¯u cwmpas ac achosi newidiadau i¡¯w hwyliau sy¡¯n eithafol ac yn peri gofid. Mae'r wybodaeth hon yn edrych ar yr hyn y mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn ei olygu, pam mae'n digwydd, sut mae'n cael ei drin, a sut y gall pobl ag anhwylder sgitsoaffeithiol gynnal eu hunain. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth i deulu a ffrindiau.
Mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn salwch meddwl difrifol. Gall pobl sy'n byw gydag anhwylder sgitsoaffeithiol brofi gwahaniaethau eithafol yn y ffordd maen nhw'n gweld y byd o'u cwmpas, a gallant ei chael hi'n anodd dweud beth sy'n real a beth sydd ddim. Yn ogystal, gall eu hwyliau newid mewn modd eithafol gyda hynny¡¯n peri gofid iddynt.
Mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn salwch meddwl penodol ynddo¡¯i hun, ond mae'n rhannu rhai o symptomau sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol. Weithiau, caiff ei ddisgrifio fel cyflwr sy¡¯n eistedd yn y sbectrwm o sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol. Mae hyn oherwydd bod symptomau seicotig a symptomau¡¯n ymwneud ?¡¯r hwyliau yr un mor amlwg mewn anhwylder sgitsoaffeithiol.

Gallwch ddeall beth yw anhwylder sgitsoaffeithiol trwy edrych ar enw'r diagnosis:
Sgitso ¨C mae'r rhan hon o'r gair yn ymwneud ? symptomau seicosis
Affeithiol ¨C mae'r rhan hon o'r gair yn ymwneud ? hwyliau, a'r symptomau mewn perthynas ? hwyliau sy'n bodoli mewn anhwylder sgitsaffegol.
Mae'n bwysig nodi bod anhwylder sgitsoaffeithiol a sgitsoffrenia yn gyflyrau gwahanol, er eu bod yn rhannu rhai symptomau a thriniaethau. Y prif wahaniaeth yw bod gan anhwylder sgitsoaffeithiol elfen sy¡¯n ymwneud ?¡¯r hwyliau, a all gynnwys mania neu iselder, ond nid yw¡¯r elfen hon yn berthnasol i sgitsoffrenia.
Os oes gennych anhwylder sgitsoaffeithiol, neu os ydych chi'n profi episod, bydd gennych:
- symptomau seicosis a
- symptomau anhwylder deubegynol, sy'n cynnwys episodau manig, cymysg ac iselder. Rydym yn esbonio'r rhain isod.
Mae'n bwysig nodi eich bod chi'n annhebygol o brofi'r symptomau hyn trwy'r amser. Yn hytrach, rydych chi'n debygol o brofi symptomau gwahanol ar wahanol adegau, a bydd y symptomau hyn yn fwy neu¡¯n llai difrifol yn dibynnu ar nifer o ffactorau.
Symptomau seicotig
Camddychmygion
Mae camddychmygion yn gredoau sy'n real iawn i chi. Fodd bynnag, mae'n debyg na fyddant yn cael eu rhannu gan, nac yn gwneud synnwyr i bobl eraill fel eich ffrindiau a'ch teulu. Mae enghreifftiau cyffredin o gredoau camddychmygol yn cynnwys:
- eich bod chi'n hynod bwerus neu bwysig
- bod pethau'n gysylltiedig i chi a'ch bywyd. Er enghraifft, bod cyswllt rhwng stori newyddion a¡¯ch bywyd chi neu fod y radio yn cyfathrebu ? chi.
- bod rhywun, neu lawer o bobl, yn eich gwylio chi, yn eich niweidio neu¡¯n ceisio eich brifo chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod
Efallai y byddwch chi'n siarad am y credoau hyn gyda phobl eraill, neu wneud pethau sy'n gysylltiedig ?'r credoau hyn, fel cuddio rhag y bobl rydych chi'n teimlo sy'n eich brifo. Ni fydd y credoau hyn yn hawdd eu hegluro oherwydd eich crefydd neu¡¯ch diwylliant.
Rhithwelediadau
Rhithwelediadau yw pan fyddwch chi'n clywed, gweld, teimlo, arogli neu flasu pethau nad yw pobl eraill yn eu profi. Y math mwyaf cyffredin o rithwelediad yw rhithwelediadau clywedol (clyw), a all deimlo fel bod rhywun yn siarad yn eich clust neu o'r tu ?l i chi.
Weithiau bydd camddychmygion o gymorth i chi 'esbonio' eich rhithwelediadau. Er enghraifft, os gallwch chi glywed lleisiau yn siarad amdanoch chi, efallai y byddwch chi'n datblygu camddychmygion bod eich cymdogion yn cynllwynio yn eich erbyn, ac mai dyma'r lleisiau yr ydych yn eu clywed.
Meddwl anhrefnus
Meddwl a siarad mewn ffyrdd dryslyd neu ddi-drefn nad ydynt yn gwneud synnwyr i eraill.
Credu eich bod chi'n cael eich dylanwadu neu eich rheoli
Credu bod eraill yn rheoli eich meddyliau neu¡¯ch gweithredoedd, yn darllen eich meddyliau neu¡¯n rhoi meddyliau yn eich pen. Efallai y byddwch chi'n dod yn amheus o'r bobl o'ch cwmpas ac yn ei chael hi'n anodd ymddiried mewn eraill, neu efallai y byddwch chi'n credu eich bod chi'n cael eich rheoli gan rym allanol fel Duw, y Diafol, ysbrydion neu estroniaid (¡®aliens¡¯).
Symptomau negyddol
Dyma bethau y byddwch efallai¡¯n rhoi¡¯r gorau i¡¯w gwneud:
- Dangos llai o emosiwn nag yr ydych fel arfer yn ei wneud. Gall hyn fod trwy¡¯r mynegiant ar eich wyneb, cyswllt llygaid, iaith y corff, neu d?n eich llais.
- Siarad llai neu beidio ? siarad o gwbl.
- Bod heb gymhelliant i wneud pethau rydych chi fel arfer yn eu gwneud neu i fynd ar drywydd eich nodau.
- Methu gofalu amdanoch eich hun fel y byddech chi fel arfer. Er enghraifft, methu ymolchi eich hun na choginio bwyd
- Teimlo eich bod chi eisiau ynysu eich hun neu dynnu'n ?l oddi wrth eraill.
- Methu ? chael pleser neu fwynhad mewn pethau roeddech chi'n eu mwynhau o'r blaen.
Newidiadau sylweddol yn eich lefel o weithrediad
Ymddwyn mewn ffyrdd sy'n rhyfedd, sydd heb bwrpas clir, neu sy'n anrhagweladwy. Neu gael ymatebion emosiynol amhriodol. Bydd hyn yn annodweddiadol iawn i chi.
Gwahaniaethau yn y ffordd rydych chi'n symud
Bod yn gynhyrfus iawn neu'n aflonydd, neu eistedd yn llonydd iawn a dal eich hun mewn ystum anarferol. Mae'r rhain yn bethau sy'n gallu digwydd oherwydd cyflwr o'r enw catatonia, a all ddigwydd i bobl ag anhwylder sgitsoaffeithiol a mathau eraill o salwch meddwl. Os oes gennych lawer o'r symptomau hyn, efallai y cewch ddiagnosis o catatonia hefyd. Mae Catatonia yn hynod ddifrifol, a dylid ei drin yn gyflym. Gallwch ddarganfod mwy am hyn yn ein hadnodd catatonia.
Symptomau sy¡¯n gysylltiedig ? hwyliau
Os oes gennych anhwylder sgitsoaffeithiol, byddwch yn cael symptomau sy¡¯n effeithio eich hwyliau yn ogystal ? symptomau seicotig. Gall y rhain gynnwys iselder, mania neu gymysgedd o¡¯r ddau:
Os ydych chi'n profi episod o iselder, efallai y byddwch:
- Mewn hwyliau isel yn gyson.
- Yn colli diddordeb mewn pethau rydych chi fel arfer yn eu gweld yn ddiddorol.
- Yn brwydro i ganolbwyntio.
- Yn bwyta mwy neu lai nag arfer.
- Yn cysgu mwy neu lai nag arfer.
- Yn teimlo'n ddiwerth, yn euog neu'n anobeithiol.
- Yn cael meddyliau o beidio ? bod eisiau byw neu eisiau dod ?'ch bywyd i ben.
Os ydych chi'n profi episod manig, efallai y byddwch:
- Mewn hwyliau anarferol o hapus, yn teimlo'n hynod biwis neu¡¯n hynod agored a siaradus.
- Yn hynod weithgar ac egn?ol.
- Yn siarad ac yn meddwl yn gyflym iawn.
- ? lefel uwch o hunan-barch, neu¡¯n teimlo eich bod chi'n hynod bwerus neu bwysig.
- Angen llai o gwsg nag arfer, ond dal ddim yn teimlo'n flinedig.
- Ddim yn gallu canolbwyntio, eich sylw¡¯n cael ei dynnu.
- Gweithredu heb feddwl, neu roi eich hun neu eraill mewn perygl.
Os ydych chi'n profi episod manig, efallai y byddwch chi'n gwneud pethau na fyddech chi'n eu gwneud fel arfer. Er enghraifft, efallai y byddwch:
- yn dechrau gwario llawer o arian ar bethau nad oes eu hangen arnoch o reidrwydd, gan ddefnyddio arian nad oes gennych o reidrwydd
- yn mynd ar dripiau neu wyliau munud olaf
- yn dechrau siarad ? dieithriaid.
Pan fydd symptomau manig yn dechrau, gallant fod yn ysgafn iawn. Fodd bynnag, dros amser gallant ddechrau effeithio mwy ar sut rydych chi'n gweithredu o ddydd i ddydd, ac ar eich perthnasoedd ? theulu a ffrindiau.
Episod cymysg yw pan fyddwch chi'n profi cymysgedd o symptomau mania ac iselder ar yr un pryd. Gall y rhain newid o ddydd i ddydd, neu hyd yn oed yn ystod yr un diwrnod.
Pan fyddwch chi'n profi episod o anhwylder sgitsoaffeithiol, efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd sylweddoli eich bod chi'n profi'r symptomau a ddisgrifir uchod. Yn anffodus, gall hyn ei gwneud hi'n anodd ceisio help.
Mae seicosis yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio gr?p o symptomau. Mae hefyd yn derm ymbar¨¦l. Mae hyn yn golygu y gall pobl ? llawer o wahanol gyflyrau brofi symptomau seicosis, gan gynnwys:
- Anhwylder sgitsoaffeithiol
- Sgitsoffrenia
- Anhwylder deubegynol
- Iselder difrifol
Gallai anhwylderau gorbryder fel anhwylder gorbryder cyffredinol neu anhwylder obsesiynol-gorfodaethol (OCD) hefyd arwain at ddatblygu seicosis. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i straen eithafol sy'n gysylltiedig ?'r anhwylder gorbryder.
Gall seicosis hefyd ddigwydd pan fydd rhywun:
- wedi cael anaf i'r ymennydd
- yn rhoi¡¯r gorau i yfed alcohol
- wedi¡¯i amddifadu o gwsg
- wedi cymryd cyffuriau adloniadol, fel canabis neu goc¨ºn
- yn rhoi¡¯r gorau i gymryd cyffuriau adloniadol
- ? haint, fel haint wrin. Gall heintiau weithiau achosi cyflwr o'r enw deliriwm, a all achosi i bobl fynd yn ffwndrws ac weithiau i ddatblygu symptomau seicotig. Mae'r symptomau seicotig fel arfer yn gwella wrth i achos y deliriwm gael ei drin.
Gall hefyd ddigwydd fel sg?l-effaith meddyginiaeth newydd neu feddyginiaeth a ragnodwyd yn ddiweddar.
Fel y disgrifir uchod, gall seicosis hefyd ddigwydd heb reswm o gwbl a heb unrhyw gysylltiad ag unrhyw gyflwr meddygol arall.
Ni fydd pawb sy'n profi seicosis yn cael diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol:
- Dim ond un 'episod' o seicosis fydd rhai pobl yn ei gael, sy'n golygu eu bod yn profi seicosis, yn gwella a byth yn ei brofi eto.
- Bydd rhai pobl yn cael sawl episod o seicosis.
- Bydd rhai o'r bobl hyn yn mynd ymlaen i dderbyn diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol neu anhwylder seicotig cysylltiedig. Gall y diagnosis a dderbyniwch swnio'n eithaf cymhleth, a gallwch ofyn i'ch meddyg esbonio beth mae'r gwahanol rannau o'ch diagnosis yn ei olygu.
Os ydych chi wedi profi un neu fwy o episodau o seicosis ac eisiau deall pam nad ydych wedi cael diagnosis o gyflwr fel anhwylder sgitsoaffeithiol, siaradwch ?'ch meddyg. Efallai y bydd rhesymau pam nad yw'ch meddyg yn teimlo bod unrhyw o'r diagnosisau hyn yn disgrifio eich profiadau¡¯n iawn.
"Wrth edrych yn ?l ar fy mhrofiad pan gefais ddiagnosis, doeddwn i ddim yn deall pam ei fod wedi digwydd ar yr adeg benodol honno. Doeddwn i ddim yn gwybod bod yn rhaid i chi fod wedi bod ?¡¯r symptomau am o leiaf fis, ac roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gwneud yn dda a bod y diagnosis yn dangos nad oeddwn i'n gwneud yn dda. Ond nawr rwy'n deall nad oedd hynny'n wir. Nid oedd fy niagnosis yn nodi pa mor dda oeddwn i." AshleyGwahanu camddychmygion oddi wrth realiti
Efallai y bydd yn anodd i bobl eraill sylweddoli eich bod chi'n profi camddychmygion. Mae hyn yn arbennig o wir os oes pethau yn eich bywyd sy'n cysylltu i'ch camddychmygion, neu os yw eich camddychmygion yn seiliedig ar bethau go iawn. Er enghraifft:
- Crefydd - Os ydych chi'n grefyddol, efallai y bydd credu y gallwch chi siarad ? Duw trwy weddi fod yn rhan normal o'ch system gred. Fodd bynnag, os yw'r credoau hyn yn dechrau dod yn fwy dwys neu eithafol, neu'n dechrau effeithio ar eich perthnasoedd ag eraill, gallai hyn fod yn arwydd eich bod chi'n s?l.
- Cyflogaeth ¨C Efallai y bydd yn anodd i eraill sylweddoli eich bod chi'n profi camddychmygion os oes gennych swydd sydd ? chyswllt ?¡¯ch camddychmygion. Er enghraifft, os ydych wedi gorfod gweithio gyda gwybodaeth gyfrinachol, er enghraifft, yn y Llywodraeth neu'r fyddin, a bod gennych gamddychmygion ynghylch gwyliadwriaeth.
- Bywyd personol ¨C Gall pethau fod wedi digwydd i chi yn eich bywyd personol a arweiniodd at i chi gael eich rheoli neu eich gwylio. Er enghraifft, bod mewn perthynas ble roedd camdriniaeth. Os ydych chi'n datblygu camddychmygion eich bod chi'n cael eich dilyn neu eich rheoli, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i eraill sylweddoli eich bod chi'n s?l.
Os ydych chi'n profi camddychmygion, bydd y meddyliau a'r syniadau sydd gennych yn fwy eithafol nag arfer, ac mae'n debyg y byddant yn ymddangos yn rhyfedd neu allan o gymeriad i eraill.
Nid ydym bob amser yn gwybod beth sy'n achosi i rywun ddatblygu anhwylder sgitsoaffeithiol. Mae yna rai 'ffactorau risg' sy'n gallu golygu bod anhwylder sgitsoaffeithiol yn fwy tebygol o ddatblygu, ac mae'n aml yn cynnwys nifer o ffactorau sy'n gweithio gyda'i gilydd. Gall y ffactorau risg hyn gynnwys:
Genynnau
Mae yna ffactorau risg genetig penodol sy'n gwneud rhywun yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder sgitsoaffeithiol. Mae ffactorau risg genetig tebyg yn gysylltiedig ? p'un a yw rhywun yn datblygu sgitsoffrenia, iselder difrifol neu anhwylder deubegynol. Mae yna hefyd ffactorau risg amgylcheddol, a gall y rhain ryngweithio ? ffactorau risg genetig i gynyddu neu leihau eich risg o ddatblygu'r cyflyrau hyn.
Er enghraifft, efallai y bydd gennych ffactorau risg genetig sy'n golygu eich bod yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder sgitsoaffeithiol. Fodd bynnag, os ydych chi'n tyfu i fyny neu'n byw mewn amgylchedd sefydlog, gallai hyn eich amddiffyn rhag datblygu salwch meddwl difrifol.
Bod ? pherthynas sydd gyda'r cyflwr
Mae cael perthynas ? salwch meddwl difrifol fel anhwylder sgitsoaffeithiol yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch chi'n datblygu salwch meddwl difrifol eich hun.
Os oes gennych riant sydd ? salwch meddwl difrifol, mae gennych siawns 1 mewn 3 o ddatblygu salwch meddwl difrifol eich hun.
Gwahaniaethau yn strwythur yr ymennydd
Mae astudiaethau wedi dangos ei bod hi¡¯n ymddangos bod gan rhai pobl ag anhwylder sgitsoaffeithiol wahaniaethau yn eu hymennydd. Mae'r gwahaniaethau hyn yn strwythur yr ymennydd ac yn y prosesau cemegol sy'n digwydd yn yr ymennydd.
Cyffuriau ac alcohol
Mae rhai pobl yn datblygu anhwylder sgitsoaffeithiol ar ?l defnyddio cyffuriau neu alcohol.
Ymddengys bod defnydd rheolaidd o ganabis o oedran ifanc yn cynyddu'n sylweddol y risg y bydd rhywun yn datblygu symptomau seicotig. Mae ymchwil newydd wedi dangos y gall ffurfiau cryfach o ganabis, fel ¡®skunk¡¯, gynyddu'r risg hon. Mae hyn yn fwy tebygol os ydych chi'n dechrau defnyddio canabis yn eich arddegau cynnar.
Mae ymennydd rhai pobl yn fwy agored i ddatblygu seicosis oherwydd eu defnydd o ganabis. Gallwch ddarganfod mwy am ganabis, sut i roi'r gorau i'w ddefnyddio a pha fath o gefnogaeth sydd ar gael yn ein hadnodd canabis ac iechyd meddwl.
Gall amffetaminau (a elwir hefyd yn ¡®speed¡¯) roi symptomau seicotig i chi, ond maent fel arfer yn stopio pan fyddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd yr amffetaminau. Nid ydym yn gwybod eto a all y cyffuriau hyn, ar eu pennau eu hunain, sbarduno salwch hirdymor, ond efallai y byddant yn gwneud hynny os ydych chi'n fregus.
Mae rhai pobl yn datblygu symptomau seicotig yn ystod neu yn fuan ar ?l meddwdod neu roi¡¯r gorau i yfed alcohol. Mae'n fwy tebygol os ydych chi'n yfed alcohol ar raddfa fawr neu dros gyfnodau hirach o amser. Bydd y symptomau hyn fel arfer yn gwella os byddwch chi'n rhoi'r gorau i yfed alcohol.
Straen
Gall straen sylweddol eich gwneud chi'n fwy agored i ddatblygu salwch meddwl fel anhwylder sgitsoaffeithiol.
Mae llawer o bobl yn dweud iddynt brofi straen yn eu bywyd cyn i'w symptomau anhwylder sgitsoaffeithiol ddechrau. Gall hyn fod yn ddigwyddiad sydyn fel damwain car neu brofedigaeth. Gall hefyd fod yn broblem bob dydd, fel anhawster gyda gwaith neu astudiaethau, neu broblemau mwy hirdymor gyda pherthnasoedd teuluol.
Camdriniaeth neu esgeulustod
Fel gyda mathau eraill o salwch meddwl, rydych chi'n fwy tebygol o ddatblygu anhwylder sgitsoaffeithiol os ydych wedi profi camdriniaeth neu esgeulustod fel plentyn.
Wrth feddwl am yr hyn a all achosi datblygu anhwylder sgitsoaffeithiol, mae'n bwysig cofio bod llawer o wahanol bethau yn gysylltiedig. Nid oes un ffactor risg penodol yn achosi anhwylder sgitsoaffeithiol.
Bydd llawer o bobl yn profi'r pethau a ddisgrifir uchod a byth yn datblygu anhwylder sgitsoaffeithiol. Mae rhai pobl yn datblygu anhwylder sgitsoaffeithiol er nad oes ganddynt unrhyw un o'r ffactorau risg hyn. Os ydych chi¡¯n datblygu anhwylder sgitsoaffeithiol am ba reswm bynnag, mae¡¯n bwysig cofio nad oes bai o gwbl arnoch chi.
Efallai y bydd eich meddyg eisiau gweithio allan beth achosodd i chi ddatblygu anhwylder sgitsoaffeithiol rhag ofn y gall hyn helpu gyda¡¯ch triniaeth. Er enghraifft, os ydych chi'n cymryd cyffuriau, gallai eich helpu i roi'r gorau i gymryd cyffuriau fod yn rhan bwysig o¡¯ch adferiad. Fodd bynnag, os ydych chi'n defnyddio cyffuriau neu alcohol i ymdopi, ni ddylai hyn eich atal rhag derbyn triniaeth amserol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer anhwylder sgitsoaffeithiol.
"Mae camsyniad cyffredin ymysg y cyhoedd bod rhaid i rywbeth fod wedi digwydd i rywun, naill ai trawma neu gyffuriau. Ond i rai pobl nid oes ganddyn nhw unrhyw un o'r pethau hynny. Weithiau mae'n digwydd ac nid oes unrhyw beth y gallech chi fod wedi'i wneud i'w atal - nid yw'n golygu eich bod chi'n feddyliol wan. Dim ond un o'r pethau hynny sy¡¯n digwydd ydyw." Dr John Crosby
Oherwydd cymhlethdod anhwylder sgitsoaffeithiol, nid yw bob amser yn bosibl gwneud diagnosis yn gyflym. Mae sawl rheswm am hyn:
Diffyg dealltwriaeth
Nid oes gan y cyhoedd ddealltwriaeth dda iawn o anhwylder sgitsoaffeithiol. Mae hyn yn golygu y gall pobl sydd ag anhwylder sgitsoaffeithiol a'r rhai sy'n eu hadnabod fod yn llai tebygol o sylweddoli beth ydyw. Yn wir, nid yw llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydynt yn arbenigwyr mewn anhwylder sgitsoaffeithiol yn deall sut mae'n edrych.
Dryswch gyda chyflyrau eraill
Yn dibynnu ar ba symptomau sydd gan rywun, gellir camgymryd anhwylder sgitsoaffeithiol am gyflwr arall. Er enghraifft, os oes gan rywun fwy o'r symptomau sy'n gysylltiedig ? sgitsoffrenia, efallai y byddant yn cael diagnosis o sgitsoffrenia neu seicosis yn gyntaf. Neu os oes gan rywun symptomau sy¡¯n ymwneud ?¡¯u hwyliau yn bennaf, efallai y byddant yn cael diagnosis o anhwylder deubegynol yn y lle cyntaf.
Yr amser y mae'n ei gymryd i wneud diagnosis
Oherwydd y ffordd y mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn gweithio, mae'n gyflwr sy'n cymryd amser a gofal i¡¯w ddiagnosio'n gywir. Mae angen i feddygon yn aml 'arsylwi' rhywun am gyfnod sylweddol o amser i wneud diagnosis cywir o anhwylder sgitsoaffeithiol.
Os ydych chi'n meddwl bod gennych anhwylder sgitsoaffeithiol, neu eich bod newydd gael diagnosis ohono, efallai y byddwch chi'n teimlo'n ofnus ac yn ddryslyd ac mae hynny¡¯n ddealladwy. Mae yna lawer o gamwybodaeth am gyflyrau fel anhwylder sgitsoaffeithiol, a gall fod yn frawychus iawn gofyn am help. Yn anffodus, os ydych chi'n profi episod o anhwylder sgitsoaffeithiol, efallai na fyddwch yn gallu dweud eich bod chi'n s?l. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd ceisio help.
Dyma rai pethau pwysig i'w cadw mewn cof:
- Gorau po gyntaf y cewch help a chefnogaeth, rydych yn fwy tebygol wedyn o wella ac mae¡¯r canlyniadau yn y tymor hir yn debygol o fod yn well.
- Mae modd trin anhwylder sgitsoaffeithiol a gall pobl ?'r cyflwr fyw bywydau llawn a hapus.
- Mae yna lawer o wasanaethau ar gael sydd wedi'u cynllunio i gefnogi pobl ag anhwylder sgitsoaffeithiol, ac mae help ar gael.
Os ydych chi'n profi unrhyw un o'r symptomau sy'n gysylltiedig ag anhwylder sgitsoaffeithiol, siaradwch ?'ch meddyg teulu. Mae'n debyg y byddant yn eich cyfeirio at wasanaeth iechyd meddwl arbenigol neu'ch gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Secosis lleol. Gallwch ddarganfod mwy am y gwasanaeth arbenigol hwn yn ein hadnodd seicosis.
Asesiad
Os oes gennych symptomau sy'n awgrymu y gallai fod gennych anhwylder sgitsoaffeithiol, dylech gael eich asesu gan weithiwr gofal iechyd meddwl proffesiynol sydd ag arbenigedd mewn asesu a rheoli salwch meddwl fel anhwylder sgitsoaffeithiol. Dylent ddarganfod mwy am:
- eich iechyd meddwl
- p'un a ydych chi'n defnyddio cyffuriau neu alcohol
- unrhyw feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd
- unrhyw gyflyrau iechyd corfforol a allai fod gennych a'ch lles corfforol cyffredinol
- eich perthnasoedd a'ch rhwydweithiau cymorth - er enghraifft, os ydych chi'n cael eich cefnogi gan ofalwr
- unrhyw brofiadau trawmatig neu anodd y gallech fod wedi'u cael yn y gorffennol
- eich hanes o ran addysg a chyflogaeth
- eich ansawdd bywyd cyffredinol.
Efallai y bydd hyn yn ymddangos fel llawer o wybodaeth. Fodd bynnag, gall helpu'r bobl sy'n ymwneud ?¡¯ch triniaeth i ddeall sut rydych chi'n byw, pethau y gallech fod yn eu cael anodd, a'r holl wahanol ffyrdd y gallant eich helpu.
Nid oes prawf corfforol ar gyfer anhwylder sgitsoaffeithiol. Yn lle hynny, bydd y person sy'n eich asesu yn ceisio darganfod unrhyw symptomau y gallech fod yn eu profi. Bydd hyn yn eu helpu i wneud diagnosis cywir.
Mae yna lawer o wahanol bethau a all helpu rhywun sydd ag anhwylder sgitsoaffeithiol, a gall y pethau hyn fod yn ddefnyddiol ar wahanol adegau ac mewn gwahanol ffyrdd.
Dylid trin anhwylder sgitsoaffeithiol gyda¡¯r nod o:
- eich helpu i leihau eich symptomau
- lleddfu unrhyw drallod neu aflonyddwch i'ch bywyd bob dydd y gallech fod yn ei brofi
- eich helpu i gael ansawdd eich bywyd yn ?l.
Yn anffodus, nid yw rhai o'r gwasanaethau rydyn ni'n s?n amdanynt yn yr adran hon bob amser ar gael ledled y DU gyfan. Efallai y bydd rhai gwasanaethau ar gael ond efallai na fyddwch chi'n gallu cael mynediad atynt ar unwaith.
Mae yna wahanol feddyginiaethau a all helpu i wella symptomau anhwylder sgitsoaffeithiol. Bydd y math o feddyginiaeth a gynigir i chi yn dibynnu ar y mathau o symptomau sydd gennych, y mathau o symptomau rydych chi'n cael trafferth gyda nhw fwyaf, a pha mor dda rydych chi'n ymateb i wahanol feddyginiaethau.
- Gwrthseicotegau - Defnyddir gwrthseicotegau i drin symptomau seicotig, fel credoau camddychmygol, rhithwelediadau a meddwl anhrefnus.
- Gwrth-iselder - Defnyddir meddyginiaeth gwrth-iselder i drin symptomau iselder, fel teimlo mewn hwyliau isel yn gyson, ac anawsterau gyda chysgu a bwyta.
- Sefydlogwyr hwyliau ¨C Gall sefydlogwyr hwyliau helpu i drin symptomau manig, fel hwyliau uchel, ymddygiad byrbwyll, trafferth cysgu a symptomau iselder.
Os oes gennych anhwylder sgitsoaffeithiol ac yn tueddu i brofi symptomau manig, mae'n debygol y byddwch yn cael cynnig cyfuniad o sefydlogwr hwyliau a meddyginiaeth gwrthseicotig.
Os oes gennych anhwylder sgitsoaffeithiol ac yn tueddu i brofi symptomau iselder, mae'n debygol y byddwch yn cael cynnig sefydlogwr hwyliau, meddyginiaeth gwrth-iselder a gwrthseicotigau.
Mae'n bwysig nodi y gellir defnyddio'r un meddyginiaethau ar gyfer gwahanol gyflyrau, ac weithiau i drin gwahanol symptomau. Er enghraifft, gellir defnyddio meddyginiaethau gwrthseicotig fel olanzapine neu risperidone i drin symptomau manig, symptomau seicotig a symptomau iselder.
Dylai'r bobl sy'n ymwneud ?¡¯ch triniaeth ac sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth esbonio i chi pam rydych chi'n cael meddyginiaethau penodol a beth maen nhw'n ei wneud.
Sut mae gwrthseicotigau yn gweithio?
Mae gwrthseicotigau yn effeithio ar wahanol gemegion yn eich ymennydd, yn enwedig cemegyn o'r enw 'dopamin'. Credir bod symptomau seicotig fel camddychmygion a rhithwelediadau yn cael eu hachosi oherwydd bod yr ymennydd yn cynhyrchu gormod o dopamin. Mae gwrthseicotigau yn gweithio trwy leihau lefelau dopamin yn yr ymennydd, a gall hyn wella neu leihau symptomau seicotig.
Credir hefyd bod cemegion eraill yr ymennydd fel serotonin, noradrenalin, histamin a glutamate hefyd yn cael eu heffeithio mewn seicosis. Mae llawer o wrthseicotigau hefyd yn effeithio ar lefelau'r cemegion hyn.
A oes gan wrthseicotigau sg?l-effeithiau?
Mae gan bob meddyginiaeth sg?l-effeithiau, a gall y rhain amrywio yn dibynnu ar y person a'r math o feddyginiaeth. Dylai eich meddyg esbonio'r sg?l-effeithiau y gallech eu cael os byddwch chi'n dechrau cymryd gwrthseicotigau, a rhoi cyfle i chi drafod eich meddyginiaeth ac unrhyw bryderon a allai fod gennych.
Dylech hefyd gael cynnig taflen sy'n esbonio'r sg?l-effeithiau cyffredin sy'n gysylltiedig ?'r feddyginiaeth sydd wedi'i hargymell i chi. Cymerwch amser i ddarllen y daflen hon, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau gofynnwch i'r person sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth.
Os ydych chi'n teimlo bod y feddyginiaeth rydych chi'n ei gymryd yn rhoi sg?l-effeithiau annymunol i chi, siaradwch ?'ch meddyg. Dylent eich cefnogi i ddod o hyd i feddyginiaeth sy'n trin eich symptomau ond sydd ddim yn achosi sg?l-effeithiau annioddefol neu annymunol i chi. Dylai eich meddyg hefyd ystyried unrhyw feddyginiaeth arall rydych chi'n ei chymryd wrth ragnodi gwrthseicotigau i chi a'r rhyngweithio posibl rhwng y meddyginiaethau hyn. Gallwch ddarllen mwy am ryngweithiadau rhwng meddyginiaethau
Monitro iechyd
Dylech gael cynnig sgr?n iechyd corfforol llawn cyn dechrau unrhyw wrthseicotigau. Bydd hyn yn cynnwys:
- profion gwaed, i sgrinio am gyflyrau fel diabetes mellitus a cholesterol uchel
- arsylwadau corfforol (megis pwysedd gwaed, cyfradd curiad y galon a thymheredd)
- siecio eich taldra a¡¯ch pwysau, ac o bosibl mynegai m¨¤s eich corff (BMI)
- ECG, sy'n mesur gweithgaredd trydanol y galon
- trafodaeth ynghylch ysmygu, defnydd o alcohol a chyffuriau, os yw'r hyn yn berthnasol i chi.
Mae'n bwysig eich bod yn cael profion monitro iechyd corfforol o leiaf unwaith y flwyddyn tra byddwch yn cymryd y meddyginiaethau a ragnodir i drin eich anhwylder sgitsoaffeithiol. Gall eich t?m iechyd meddwl neu eich meddyg teulu wneud y rhain, gofynnwch i'ch t?m iechyd meddwl pwy fydd yn eu gwneud. Gall pobl ag anhwylder sgitsoaffeithiol fod ag iechyd corfforol gwaeth, yn enwedig iechyd cardiofasgwlaidd, a dyna pam mae angen ei fonitro'n ofalus. Efallai y bydd eich meddyg yn argymell eich bod yn gwneud newidiadau i¡¯ch ffordd o fyw, rheoli eich meddyginiaeth yn wahanol neu gymryd meddyginiaethau ychwanegol i atal rhai sg?l-effeithiau (fel ennill pwysau) rhag datblygu, os bydd yn helpu i wella eich iechyd corfforol.
Gall rhai pethau ryngweithio'n beryglus ? gwrthseicotigau, gan gynnwys rhai meddyginiaethau eraill, alcohol, cyffuriau anghyfreithlon a sigar¨¦ts. Mae'n bwysig eich bod chi'n siarad ?'ch meddyg:
- cyn i chi ddechrau cymryd unrhyw feddyginiaethau eraill
- os ydych chi'n yfed alcohol
- os ydych chi'n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon
- os ydych chi'n cymryd llawer o gaffein (yn enwedig os ydych chi'n gwneud hyn weithiau ond nid trwy'r amser)
- os ydych chi'n penderfynu dechrau, rhoi'r gorau i neu dorri lawr ar nifer y sigar¨¦ts yr ydych yn eu hysmygu. Os byddwch chi'n rhoi'r gorau i ysmygu, gall hyn gynyddu lefel y gwrthseicotigau yn eich gwaed felly efallai y bydd angen d?s is o feddyginiaeth arnoch. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi'n cymryd clozapine (gallwch ddarllen mwy am clozapine yn yr adran nesaf).
- os oes gennych haint, gall heintiau newid lefelau meddyginiaeth yn eich corff.
Mae yna lawer o wahanol feddyginiaethau gwrthseicotig. Profwyd yn gyson bod yr holl feddyginiaethau gwrthseicotig yr un mor effeithiol ?¡¯i gilydd, ar wah?n i clozapine sydd wedi cael ei ddangos i fod yn fwy effeithiol. Yr hyn sy'n amrywio o un wrthseicotig i'r llall yw'r mathau o sg?l-effeithiau y mae pobl yn eu cael wrth eu cymryd, a difrifoldeb y sg?l-effeithiau hynny.
Efallai y byddwch chi'n cael eich cynghori i beidio ? chymryd rhai gwrthseicotigau os ydych chi:
- yn gallu beichiogi
- yn cymryd rhai meddyginiaethau eraill
- ? rhai cyflyrau iechyd eraill fel diabetes mellitus neu bwysedd gwaed uchel.
Dylai eich meddyg ystyried yr holl bethau hyn, a gweithio mewn partneriaeth ? chi i ddewis gwrthseicotigau sy'n gweithio orau i chi.
"Cefais brofiad lle gofynnodd y person a oedd yn rhoi triniaeth i mi a allwn i newid fy meddyginiaeth. Roeddwn i'n meddwl yn fy nghalon nad dyma oedd y penderfyniad cywir, ond mi nes i gytuno a difaru wedyn a chael ychydig o ¡®relapse¡¯. Sylweddolais y byddai wedi helpu pe bawn i wedi bod ? ffydd fy mod i'n gwybod bod y feddyginiaeth honno yn ddefnyddiol. Cofiwch fod gennych chi lais ac y gallwch fynegi eich barn." Ashley
Clozapine
Clozapine yw'r unig feddyginiaeth gwrthseicotig lle cafwyd prawf cyson mewn astudiaethau ymchwil ei fod yn gweithio i bobl lle nad yw gwrthseicotigau eraill wedi gweithio'n dda. Efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu eich bod yn dechrau ar clozapine os:
- ydych chi wedi rhoi cynnig ar o leiaf ddwy feddyginiaeth gwrthseicotig wahanol am nifer o wythnosau o leiaf a
- rydych chi'n parhau i gael eich trafferthu gan symptomau seicotig.
Os ydych chi'n dechrau cymryd clozapine, byddwch yn cael y gwiriadau iechyd corfforol arferol, fel y disgrifir yn yr adran flaenorol. Byddwch hefyd yn cael eich monitro¡¯n agosach:
- Am y 18 wythnos gyntaf y byddwch chi'n cymryd clozapine, bydd angen i chi gael prawf gwaed unwaith yr wythnos.
- Ar ?l hyn, am hyd at flwyddyn ar ?l dechrau clozapine cymryd clozapine, bydd angen i chi gael prawf gwaed bob pythefnos.
- Ar ?l blwyddyn, bydd angen i chi gael prawf gwaed bob pedair wythnos cyhyd ag y byddwch chi'n defnyddio clozapine.
Profion gwaed
Os ydych chi'n cymryd clozapine, rhaid i chi gael profion gwaed rheolaidd o'r enw cyfrif gwaed llawn. Mae hyn i wirio am sg?l-effaith bosibl ond prin iawn o gymryd clozapine lle mae nifer y celloedd gwaed gwyn yn eich corff yn lleihau. Mae celloedd gwaed gwyn yn ymladd haint ac os nad oes gennych ddigon ohonynt, gallwch fynd yn s?l iawn. Gall profion gwaed rheolaidd helpu meddygon i sicrhau nad oes unrhyw arwydd bod hyn yn digwydd.
Efallai y bydd angen prawf gwaed gwahanol arnoch hefyd, o'r enw prawf monitro lefel plasma. Mae'r prawf hwn yn monitro faint o clozapine sydd yn eich gwaed. Gellir ei ddefnyddio i wneud yn si?r eich bod yn cymryd y d?s cywir o clozapine ac i ddiystyru neu ddiagnosio unrhyw broblemau iechyd sy'n gysylltiedig ? defnyddio clozapine.
Mae tystiolaeth yn dechrau dod i'r amlwg sy'n awgrymu efallai na fydd angen profion gwaed mor aml ar rai pobl. Os bydd canllawiau ynghylch hyn yn newid, bydd eich t?m iechyd meddwl yn trafod hyn gyda chi.
Mae'n bwysig iawn, os ydych chi'n cymryd clozapine, eich bod chi'n ei gymryd fel y rhagnodwyd. Os byddwch yn colli cymryd eich d?s clozapine am fwy na 48 awr, dylech gysylltu ?'ch meddyg ar frys am gyngor cyn cymryd eich d?s nesaf o clozapine. Mae hyn oherwydd y gall fod yn beryglus cymryd d?s llawn ar ?l egwyl.
Sg?l-effeithiau
Gall pobl sy'n cymryd clozapine hefyd brofi rhai sg?l-effeithiau eraill. Mae rhai o'r rhain yn debyg i'r rhai a restrir yn yr adran flaenorol am yr holl feddyginiaethau gwrthseicotig, ond mae rhai yn arbennig o gyffredin i clozapine, gan gynnwys:
- ennill pwysau
- blinder
- rhwymedd
Gall Clozapine hefyd achosi i galonnau rhai pobl guro'n gyflymach nag arfer (a elwir yn tachycardia sinws). Gall hyn fod yn ymateb arferol y corff pan fydd rhywun yn dechrau cymryd clozapine. Fodd bynnag, mae hefyd yn symptom o niwed i'r galon. Oherwydd hyn, os yw rhywun yn parhau i gael tachycardia sinws, dylid cynnal archwiliad am arwyddion a symptomau eraill o niwed i'r galon. Gall y sg?l-effeithiau beri gofid, ond mae'r rhan fwyaf yn hawdd eu rheoli.
Mae llawer o bobl sy'n cymryd clozapine yn dweud ei fod o gymorth i aros yn iach, a bod lefel y sg?l-effeithiau yn isel neu¡¯n rhai y gellir eu rheoli.
Am faint o amser fydd yn rhaid i mi gymryd meddyginiaeth?
Mae llawer o bobl eisiau gwybod pa mor hir y bydd yn rhaid iddynt gymryd meddyginiaeth, ac a fyddant yn gallu rhoi'r gorau i'w chymryd yn y dyfodol. Gall fod yn anodd iawn rhagweld pa mor hir y gall fod angen i rywun gymryd meddyginiaeth, a gall ddibynnu ar lawer o wahanol bethau.
Mae risg uchel o ailwaelu os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth o fewn 1 i 2 flynedd ar ?l ei dechrau. Mae ailwaelu yn golygu y byddwch yn mynd yn s?l iawn yn feddyliol eto. Gall aros ar feddyginiaeth leihau'n sylweddol y risg y byddwch chi'n ailwaelu eto.
Bydd angen i rai pobl gymryd meddyginiaeth am gyfnod hir a bydd angen i rai pobl gymryd y feddyginiaeth am weddill eu hoes er mwyn aros yn iach. Mae pa mor hir y bydd angen i chi gymryd meddyginiaeth yn dibynnu arnoch chi a'ch sefyllfa unigryw.
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi'r gorau i gymryd fy meddyginiaeth?
Os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth, efallai y byddwch chi'n mynd yn s?l eto. Po fwyaf o weithiau y byddwch chi'n cael ailwaelu, y mwyaf anodd y gall fod i chi ddod yn iach eto. Efallai na fyddwch yn gwella i¡¯r un lefel bob tro. Dyma un o'r rhesymau y bydd eich meddygon yn eich annog i barhau i gymryd eich meddyginiaeth.
Os ydych chi eisiau rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth neu os ydych chi'n meddwl am wneud hynny, rydym yn eich cynghori'n gryf i siarad ?'ch gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol neu'ch meddyg teulu yn gyntaf. Dylent drafod manteision ac anfanteision rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth, unrhyw risgiau a allai fod yn gysylltiedig, a'r ffordd orau o wneud hynny.
"Yn fy mhrofiad i, pobl sy'n cymryd eu meddyginiaeth fel y dylent yw'r rhai sydd wedi aros yn iach. Dyna fy mhrofiad bywyd i. Fe ddes i oddi ar feddyginiaeth gymaint o weithiau i fynd yn ?l i¡¯r fyddin, gyda hynny¡¯n arwain at ryw fath o syndrom ¡®drws yn cylchdroi." Michael
Chwistrellau hirweithredol
Mae chwistrellau hirweithredol, a elwir hefyd yn feddyginiaeth depo, yn feddyginiaethau sy'n cael eu rhoi fel pigiad i mewn i¡¯r cyhyrau (pigiad mewngyhyrol), yn hytrach na'u cymryd ar ffurf tabled. Mae'r feddyginiaeth wedyn yn cael ei rhyddhau'n araf i'r corff dros nifer o wythnosau.
Mae'r feddyginiaeth mewn chwistrellau hirweithredol yr un fath ?¡¯r feddyginiaeth sydd mewn tabled.
Mae'n well gan rai pobl chwistrellau hirweithredol yn hytrach na thabled, oherwydd nid oes rhaid iddynt gofio cymryd eu meddyginiaeth bob dydd. Ar y llaw arall, nid yw rhai pobl yn hoffi pigiadau, neu'n well ganddynt y syniad o ddewis cymryd tabled bob dydd.
Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy'n defnyddio chwistrellau hirweithredol yn cael canlyniadau gwell na phobl sy'n cymryd meddyginiaethau gwrthseicotig ar ffurf tabled. Gallwch ddarganfod mwy am chwistrellu hirweithredol gwrthseicotig yn ein hadnodd gwybodaeth.
"Mae'n haws i mi gael pigiad unwaith y mis, yn enwedig gyda'r patrwm cwsg sydd gen i. Os ydw i'n mynd ar noson allan ac yn aros drosodd yn nh? rhywun wedyn, does dim rhaid i mi fod yn poeni a oes gen i fy nhabledi. O safbwynt cyfleustra mae pigiad yn y feddygfa unwaith y mis yn llawer haws i'w reoli." Michael
Therap?au seicolegol neu therap?au siarad yw lle rydych chi'n siarad ? therapydd ar eich pen eich hun neu mewn gr?p am y problemau rydych chi'n eu cael.
Argymhellir therap?au seicolegol fel triniaeth ar gyfer seicosis, sgitsoffrenia ac anhwylder sgitsoaffeithiol, ac mae llawer o dystiolaeth eu bod yn effeithiol. Dylech gael cynnig therapi seicolegol ar yr un pryd ? meddyginiaeth, gan y gall hyn wneud y naill beth a¡¯r llall yn fwy effeithiol.
Bydd pa mor ddefnyddiol y byddwch chi¡¯n cael y gwahanol therap?au seicolegol yn dibynnu arnoch chi a'ch sefyllfa unigryw.
Yn anffodus, gall gymryd peth amser i gael mynediad at therap?au seicolegol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.
Therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT)
Mae CBT yn eich helpu i ddysgu ffyrdd mwy defnyddiol o feddwl ac ymateb mewn sefyllfaoedd bob dydd. Yn wahanol i rai therap?au siarad eraill, mae CBT yn canolbwyntio ar eich heriau presennol yn hytrach nag ar eich profiadau yn y gorffennol.
Dylech gael cynnig CBT unigol, lle byddwch chi'n cwrdd ? therapydd ar eich pen eich hun, am o leiaf 16 sesiwn wythnosol.
Sut gall CBT fy helpu?
Gall CBT eich helpu i:
- ddeall y cysylltiadau rhwng eich meddyliau, eich emosiynau a'ch ymddygiadau mewn perthynas ?'ch symptomau
- deall sut mae eich credoau yn ymwneud ?'r symptomau sydd gennych
- datblygu ffyrdd amgen o ymdopi ?'ch symptomau
- teimlo'n llai gofidus am eich symptomau.
Pryd fydda i'n dechrau CBT?
Mae therap?au seicolegol fel arfer yn fwy defnyddiol os ydych chi'n gallu cymryd rhan ynddynt a chwblhau gwaith y tu allan i'r sesiynau wedi'u trefnu ar eich cyfer. Os ydych chi'n s?l yn feddyliol, efallai y byddai'n well i chi ddechrau CBT pan fyddwch chi'n fwy sefydlog. Mae hyn oherwydd y bydd CBT o bosib yn golygu y bydd angen i chi herio rhai o'r camddychmygion neu'r credoau sydd gennych. Os nad ydych chi'n barod i wneud hyn, gallai niweidio'r berthynas rhyngoch chi a'ch therapydd, ac achosi i'ch iechyd meddwl waethygu.
Therap?au celf
Mae therap?au celf yn defnyddio gwahanol fathau o fynegiant creadigol i helpu pobl i archwilio eu meddyliau a'u teimladau. Gall therap?au celf gynnwys pethau fel paentio, ffotograffiaeth, cerflunio, cerddoriaeth ac ysgrifennu.
Gall therap?au celf eich helpu i:
- fynegi eich hun
- dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu ? phobl eraill
- cynrychioli eich profiadau trwy gelf.
Gallai therap?au celf helpu i wella eich symptomau negyddol.
Ymyriadau teuluol
Mae ymyriadau teuluol yn wahanol fathau o gymorth y gellir eu rhoi i chi a'ch teulu i¡¯ch helpu i ddod at eich hun yn well.
Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o weithio gyda theuluoedd. Fodd bynnag, dylai ymyriadau teuluol gael eu cynnal gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a chynnwys y pethau canlynol:
- seicoaddysg - eich helpu chi a'ch teulu i ddeall eich diagnosis yn well
- rheoli a lleihau straen
- eich helpu chi a'ch teulu i brosesu eich emosiynau yn effeithiol
- dysgu meddwl am feddyliau a chredoau mewn ffordd wahanol
- datrys problemau.
Gall ymyriadau teuluol eich cynnwys chi neu efallai y byddant yn cael eu cynnig i'ch teulu i ddechrau. Dylid cynnig ymyriadau teuluol am o leiaf dri mis, am o leiaf 10 sesiwn.
Mae yna therap?au eraill ar gael, fel therapi deialog llais (neu afatar) sydd ddim yn cael eu trafod oherwydd nad ydynt o reidrwydd ar gael yn eang ledled y DU.
Os ydych chi'n s?l iawn, efallai y bydd angen i chi dreulio peth amser mewn ysbyty seiciatrig i'ch helpu i wella. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych chi:
- angen lefel uchel o driniaeth a gofal
- mewn perygl o niweidio eich hun neu eraill
- mewn perygl o gael eich niweidio gan eraill.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi gael eich asesu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, a'ch cadw mewn ysbyty. Gall hyn ddigwydd os nad yw'n ddiogel i chi beidio ? bod yn yr ysbyty neu i wneud penderfyniadau am eich gofal ar eich pen eich hun. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael eich cadw yn yr ysbyty yn orfodol (¡®sectioned¡¯) dan adran o¡¯r gyfraith.
Mae yna lawer o wahanol fathau o ¡®section¡¯, a gallwch ddarganfod mwy amdanynt yn ein hadnodd ar gael eich cadw yn yr ysbyty yn orfodol. Mae'r adnodd hwn yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig, ac mae deddfau a rheoliadau eraill yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Os ydych wedi cael eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, dylai eich meddygon barhau i ofyn eich barn am eich triniaeth a'ch helpu i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau gymaint ? phosibl. Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd angen i'ch meddygon siarad ? ffrind agos, aelod o'r teulu neu ofalwr am eich triniaeth. Mae yna reolau ynghylch rhannu gwybodaeth, y gallwch ddarganfod mwy amdanynt yn ein hadnodd gwybodaeth ar ofalu am rywun ? salwch meddwl.
Eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol
Os ydych chi'n cael eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, mae gennych hawl awtomatig i gael mynediad at eiriolwr iechyd meddwl annibynnol (IMHA).
Mae IMHAs yn unigolion sydd ? gwybodaeth dda am:
- y Ddeddf Iechyd Meddwl
- hawliau unigolion sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae IMHAs yn gwbl annibynnol o¡¯r ymddiriedolaeth iechyd sy¡¯n gyfrifol am yr ysbyty y cewch eich derbyn iddo. Gallant eich cefnogi i apelio yn erbyn eich cadw a mynychu eich adolygiadau ar y ward. Gallant helpu i sicrhau bod eich barn a'ch teimladau¡¯n cael eu clywed a'u hystyried gan y bobl sy'n gyfrifol am eich triniaeth.
Gallwch ddarganfod mwy am IMHAs ar .
Efallai y byddwch chi'n gallu derbyn eich gofal a'ch triniaeth yn y gymuned. Mae hyn yn golygu y gallwch barhau i fyw gartref, neu mewn llety ? chymorth, a derbyn eich triniaeth gan d?m iechyd meddwl cymunedol.
Mae timau iechyd meddwl cymunedol yn cynnwys llawer o wahanol rolau, gan gynnwys seiciatryddion, nyrsys iechyd meddwl, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr, gweithwyr cymorth a mwy.
Yn ogystal ? darparu cymorth iechyd meddwl i chi trwy adolygu'ch meddyginiaeth neu ddarparu therap?au seicolegol ar eich cyfer, gallant hefyd eich helpu gyda phethau eraill fel cyflogaeth, tai neu ymgeisio am fudd-daliadau.
Gall fod yn broses gymhleth i gael llety ? chymorth, os mai dyma sydd ei angen arnoch. Mae cael llety o¡¯r fath yn dibynnu ar gydweithrediad rhwng yr holl bobl sy'n ymwneud ?'ch gofal. Dylai cael gofal yn y gymuned ar eich cyfer ganolbwyntio ar hyrwyddo eich annibyniaeth tra¡¯n sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir.
Timau yn y gymuned
Mae yna wahanol dimau sy'n gallu eich cefnogi yn y gymuned:
- T?m ymyrraeth gynnar mewn seicosis - Mae'r t?m hwn yn darparu cymorth dwys i bobl sydd wedi cael eu hepisod gyntaf o seicosis, ac y gall rhai ohonynt fod ? diagnosis o sgitsoffrenia neu anhwylder sgitsoaffeithiol.
- T?m allgymorth ¡®assertive¡¯ - Mae'r t?m hwn yn darparu cymorth a chefnogaeth helaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia neu anhwylder sgitsoaffeithiol ers amser maith. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sy'n ei chael hi'n anodd gweithio gyda gwasanaethau eraill, neu nad ydynt wedi gallu cymryd eu meddyginiaethau yn rheolaidd am wahanol resymau.
- T?m datrys argyfwng a thriniaeth gartref ¨C Gall y t?m hwn eich helpu os ydych chi'n mynd yn s?l yn feddyliol fel dewis arall i fynd i'r ysbyty.
- Adsefydlu galwedigaethol - Mae hyn yn cynnwys canolfannau dydd, ysbytai dydd a chanolfannau iechyd cymunedol. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnig gweithgareddau gwahanol fel cyrsiau mynd yn ?l i'r gwaith, addysg, celf a choginio. Efallai y byddwch hefyd yn gallu sefydlu cyswllt ? phobl eraill sy'n profi pethau tebyg i chi.
Gall argaeledd y gwasanaethau hyn amrywio'n fawr yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.
Cymorth cymdeithasol
Os ydych chi'n cael trafferth gofalu amdanoch eich hun yn y gymuned, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael gweithiwr cymdeithasol, a fydd yn cynnal asesiad dan y Ddeddf Gofal i ddeall a oes gennych unrhyw anghenion gofal cymdeithasol sydd heb eu diwallu.
Efallai y bydd asesiad dan y Ddeddf Gofal yn argymell eich bod yn cael cynnig:
- pecyn o ofal yn y gymuned yn eich llety eich hun
- lleoliad byw ? chymorth
- asesiad gan therapydd galwedigaethol
Gall asesiad Deddf Gofal gael ei gynnal pan fyddwch chi'n cael eich derbyn i ysbyty seiciatrig, neu pan fyddwch yn y gymuned.
Mae adferiad yn edrych yn wahanol iawn i wahanol bobl. Mae'n dibynnu ar lawer o wahanol bethau, gan gynnwys pa mor gyson rydych chi'n cymryd y feddyginiaeth a ddynodwyd ar eich cyfer, eich lefel o ymgysylltiad ? gwasanaethau iechyd meddwl, a'r gefnogaeth rydych chi'n ei derbyn gan ffrindiau a theulu. Gallwch wneud yr holl bethau 'cywir' i wella ac aros yn iach, a pharhau i gael cyfnodau da a gwael o ran eich symptomau.
Gall fod yn ddefnyddiol ceisio peidio ? meddwl am adferiad fel 'bod heb unrhyw symptomau', oherwydd efallai na fydd hyn yn bosibl. Yn lle hynny, gallech feddwl am adferiad fel:
- gallu gwneud y pethau roeddech chi'n arfer eu gwneud
- deall eich cyflwr
- dysgu beth sy'n eich helpu i aros mor iach ? phosibl
- gwybod yr arwyddion pryd rydych chi'n mynd yn s?l, a pha help sydd ei angen arnoch pan fydd hynny¡¯n digwydd.
Mae yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i gefnogi eich hun i aros mor iach ? phosibl. Dylai eich t?m iechyd meddwl ddarparu cynllun aros yn iach i chi a gweithio gyda chi i'w gwblhau. Dylid adolygu eich cynllun aros yn iach yn rheolaidd a'i addasu os oes angen. Mae'n bwysig bod y cynllun hwn yn cael ei gynhyrchu mewn cydweithrediad ? chi a'r bobl sy'n ymwneud ?'ch gofal, a bod y pethau y mae'n eu cwmpasu yn berthnasol i chi.
Mae pethau pwysig eraill y gallwch eu gwneud i gynnal eich hun yn cynnwys:
Osgoi pethau sy'n achosi straen i chi
Bydd y pethau hyn yn wahanol o berson i berson, ond gallant gynnwys:
- Amgylcheddau sy¡¯n sbarduno straen - Gallai hyn olygu rhai lleoedd neu bobl sy'n achosi i chi deimlo dan straen mawr.
- Cyffuriau ac alcohol ¨C Er y gall yfed neu gymryd cyffuriau fod yn bleserus ar y pryd, gall gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl yn y tymor hir. Gall cyffuriau ac alcohol achosi i'ch hwyliau waethygu, gan wneud i chi deimlo'n paranoid neu achosi i chi ddechrau rhithweled. Gall cyffuriau ac alcohol hefyd ryngweithio ?'ch meddyginiaeth ac o bosibl fod yn beryglus iawn.
"Gall straen da achosi ailwaelu cymaint ag y gall straen drwg." Debra
Gwneud pethau sy'n cefnogi eich lles
Mae llawer o'r rhain yn bethau y gall pawb eu gwneud i'w helpu i gadw'n iach yn feddyliol ac yn gorfforol. Gallant fod yn arbennig o ddefnyddiol os oes gennych salwch meddwl:
- Bwyta'n dda ¨C Ceisiwch fwyta'n rheolaidd, osgoi sgipio amseroedd bwyd, a bwyta bwydydd o'r grwpiau bwyd allweddol. Gallwch ddarganfod mwy am fwyta'n dda ar .
- Ymarfer corff ¨C Dangoswyd bod cadw'n egn?ol yn cefnogi iechyd meddwl da. Ceisiwch ddod o hyd i ymarfer corff rydych chi'n ei fwynhau ac y gallwch ei wneud yn rheolaidd. Gallai hyn olygu mynd am dro cyflym, mynd i nofio, neu roi cynnig ar ddosbarth ymarfer corff lleol.
- Cadw mewn cysylltiad ?'ch t?m iechyd meddwl ¨C Estynnwch allan i¡¯ch t?m iechyd meddwl os ydych chi'n cael trafferth, a darganfyddwch pa fath o gymorth y gallant ei gynnig i chi gyda¡¯r pethau hynny y mae angen cymorth arnoch.
- Sefydlogrwydd ariannol a thai ¨C Gall anawsterau gydag arian neu dai fod yn rhai o'r pethau sy¡¯n achosi¡¯r straen mwyaf i ni. Os ydych chi'n cael trafferth gyda thai neu gyllid, edrychwch ar ein hadnodd ar fudd-daliadau, cymorth ariannol a chyngor ar ddyledion, sy'n esbonio pa fathau o fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddynt a sut i'w cael. Os oes gennych therapydd galwedigaethol yn eich t?m iechyd meddwl, efallai y byddant yn gallu eich helpu gyda hyn.
"Ni allaf bwysleisio faint rydw i wedi darganfod bod bwyta'n dda, ymarfer corff, cysgu a rheoli straen yn gweithio gystal ? chymryd meddyginiaethau i sicrhau ansawdd bywyd rhesymol. Rwyf hefyd yn osgoi pob cyffur arall, alcohol a nicotin. Rwy'n gwerthfawrogi y gall hyn fod yn anodd i lawer o bobl, ond mae'r manteision yn werth chweil iawn." Debra
"Mae eich diagnosis yn ddefnyddiol, ond nid yw'n eich diffinio chi. Rhywbeth sydd wedi fy helpu yw cael hob?au, oherwydd weithiau efallai y byddwch chi'n teimlo'n ynysig. Ond os ydych chi'n sylweddoli bod systemau cymorth o'ch cwmpas, fel anwyliaid a gweithwyr iechyd proffesiynol, mae'n helpu i wneud y daith tuag at adferiad yn haws." Ashley
Deall eich llofnod ailwaelu
Mae eich llofnod ailwaelu yn ffordd o ddisgrifio'r pethau rydych chi fel arfer yn dechrau eu gwneud neu'r ymddygiadau rydych chi'n dechrau eu dangos pan fyddwch chi'n mynd yn s?l yn feddyliol. Fe'i gelwir yn 'llofnod' oherwydd ei fod yn unigryw i chi.
Gallwch chi a'r bobl agos atoch edrych allan am y pethau hyn a chael cynllun cytunedig ar gyfer beth i'w wneud os ydych chi'n dechrau gwneud y pethau hyn. Gallai arwyddion eich bod yn mynd yn s?l gynnwys:
- ddim yn cysgu
- ynysu eich hun neu fynd allan yn fwy nag arfer
- siarad neu ymddwyn yn wahanol i¡¯r arfer
- dirywiad yn eich gwaith neu berfformiad yn yr ysgol
- bod yn fwy piwis neu ymosodol, gan gynnwys tuag at deulu a ffrindiau
Peth pwysig i'w ystyried gydag ailwaelu yw 'colli mewnwelediad'. Dyma pryd rydych chi'n stopio gallu dweud eich bod chi'n s?l, ac nad yw'ch symptomau'n real.
Colegau Adfer
Mae Colegau Adfer yn darparu cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar salwch meddwl, iechyd meddwl a lles. Maent wedi'u hanelu at bobl sydd wedi bod yn s?l yn feddyliol ac sy'n edrych i ddysgu mwy am eu cyflwr a sut y gallant gefnogi eu hadferiad. Mae gan Golegau Adferiad hefyd gyrsiau wedi'u hanelu at deulu, ffrindiau a gofalwyr.
Mae Colegau Adferiad ar gael mewn llawer o ymddiriedolaethau iechyd meddwl y GIG, a hefyd ar-lein trwy .
"Dechreuais fynd i gwpl o gyrsiau ddwy neu dair blynedd yn ?l a dysgais fwy nag yr oeddwn wedi'i ddysgu yn y 35 mlynedd blaenorol." Debra
Presgripsiynu cymdeithasol
Gall rhan bwysig o'ch adferiad ymwneud ? threulio amser gydag eraill yn gwneud pethau sy¡¯n rhoi pleser i chi. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn helpu i gysylltu pobl ? gwasanaethau cymunedol a grwpiau lleol a all helpu i gefnogi eu hiechyd meddwl a chorfforol.
Er enghraifft, os ydych chi'n mwynhau garddio, gallai presgripsiynu cymdeithasol gynnwys eich rhoi mewn cysylltiad ? gr?p garddio wythnosol yn eich ardal chi lle byddwch chi'n gallu cwrdd ag eraill a threulio amser gyda'ch gilydd yn gwneud yr hyn rydych chi'n ei fwynhau.
Gallwch ddarganfod mwy am hyn yn ein hadnodd presgripsiynu cymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn s?l iawn, mae'n debyg y bydd angen i'ch bywyd gwaith newid. Gall hyn olygu cael mwy o gefnogaeth gan eich cyflogwr, cymryd seibiant o'ch swydd, neu ddod o hyd i swydd wahanol os yw'ch swydd bresennol yn achosi straen i chi. Efallai na fydd angen i'r newidiadau hyn fod yn barhaol, ond mae'n bwysig meddwl a oes unrhyw newidiadau y gallwch eu gwneud i'ch helpu i aros mor iach ? phosibl.
Hysbysu'ch cyflogwr
Os ydych wedi cael diagnosis o salwch meddwl, efallai y byddwch chi'n meddwl tybed a ddylech ddweud wrth eich cyflogwr. Mae rhai pobl yn poeni am siarad ?'u cyflogwyr am eu diagnosis rhag ofn iddynt golli eu swydd, cael eu cam-drin, neu gael eu trin yn wahanol i'w cydweithwyr.
Mae salwch meddwl yn cael ei ystyried fel anabledd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu ei bod yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd bod ganddynt salwch meddwl.
Os ydych chi'n dweud wrth eich cyflogwr am eich diagnosis, mae ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i'ch cefnogi.
Addasiadau rhesymol
Efallai y bydd angen i'ch cyflogwr eich helpu i wneud addasiadau rhesymol i'ch swydd. Er enghraifft, os ydych wedi bod yn s?l ond yn barod i ddychwelyd i'r gwaith, gallent gynnig i chi ddychwelyd yn raddol i¡¯ch swydd. Gallai hyn olygu gweithio hanner diwrnod yn hytrach na diwrnodau llawn neu weithio'n rhan-amser ac yna cynyddu eich oriau yn araf i lawn amser eto.
Meddyliwch am y mathau o addasiadau allai fod o gymorth i chi a siaradwch ?'ch cyflogwr. Gallwch ddarganfod mwy am addasiadau rhesymol .
Mynediad at Waith
yn wasanaeth a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a all gynnig cymorth ymarferol ac ariannol i bobl ag anableddau. Mae ar gael i bobl sy'n gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu'n chwilio am waith.
Gall Mynediad at Waith ddarparu cymorth neu addasiadau y tu hwnt i'r 'addasiadau rhesymol' a ddisgrifir uchod. Er enghraifft, gallai Mynediad at Waith helpu'ch cyflogwr i dalu am hyfforddwr swydd neu hyfforddiant ychwanegol i chi.
"Dim ond rhan amser rydw i'n gweithio, ond mae Mynediad at Waith wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i mi reoli fy mhrofiadau mewn gwaith ac nid yw llawer o bobl yn gwybod amdano. Os gallwch chi gael cefnogaeth eich t?m iechyd meddwl cymunedol i wneud cais, gall wneud cymaint o wahaniaeth." Alice
Os ydych chi'n profi seicosis ac yn gyrru, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Os byddwch yn cael pwl arall o¡¯ch anhwylder sgitsoaffeithiol, bydd angen i chi roi'r gorau i yrru oherwydd ni fyddai'n ddiogel i chi yrru. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu dechrau gyrru eto os ydych wedi bod yn iach am o leiaf 3 mis. Dylai eich meddyg allu eich helpu i ddeall a yw'n ddiogel i chi yrru ai peidio. Ar ?l i chi wella, bydd y DVLA yn ysgrifennu at eich meddyg teulu neu seiciatrydd i ofyn iddynt asesu a yw'n ddiogel i chi yrru eto.
Gallwch ddarganfod mwy am salwch meddwl a gyrru ar wefan y DVLA yn .
Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd ag anhwylder sgitsoaffeithiol, efallai y byddwch chi'n meddwl sut i'w cefnogi. Yma, rydym wedi awgrymu rhai pethau y gallwch chi eu gwneud.
"Oni bai am y bobl hynny yn fy mywyd a arhosodd yn fy mywyd trwy'r amser roeddwn i dan ofal, dwi ddim yn meddwl y byddwn i lle rydw i nawr yn y lle hwn yn fy mywyd, lle mae gen i ansawdd bywyd go iawn." Michael
Cefnogi eich hun
Gall anhwylder sgitsoaffeithiol hefyd effeithio ar y bobl sy'n adnabod y person sydd wedi derbyn y diagnosis. Os yw rhywun rydych chi'n ei adnabod neu'n gofalu amdano wedi cael diagnosis o anhwylder sgitsoaffeithiol, efallai y byddai¡¯n ddefnyddiol i chi hefyd gael gwybodaeth a chefnogaeth. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i chi a¡¯r person sy¡¯n byw gydag anhwylder sgitsoaffeithiol, oherwydd po fwyaf y wybodaeth a¡¯r gefnogaeth yr ydych chi¡¯n eu cael, y mwyaf y byddwch chi'n gallu eu helpu.
Os ydych chi¡¯n agos iawn i berson sydd ag anhwylder sgitsoaffeithiol, dylech gael cynnig ymyrraeth deuluol lle gallwch ddysgu mwy am anhwylder sgitsoaffeithiol a¡¯r hyn y mae¡¯n ei olygu i chi a nhw.
Dysgu am anhwylder sgitsoaffeithiol
Mae anhwylder sgitsoaffeithiol yn gyflwr sy¡¯n cael ei gamddeall. Gallwch helpu'r person rydych chi'n ei adnabod trwy ddarganfod mwy am anhwylder sgitsoaffeithiol yn eich amser eich hun, gan ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy gan sefydliadau gofal iechyd neu elusennau - mae rhai ohonynt wedi'u rhestru isod. Gallech hefyd chwilio am hanesion gan bobl sydd ag anhwylder sgitsoaffeithiol i ddeall beth y gallwch chi a'ch anwylyd ei ddisgwyl nawr ac yn y dyfodol.
Darganfod sut y gallwch chi helpu
Gofynnwch i'r person rydych chi'n ei adnabod a oes unrhyw bethau penodol y gallech chi roi cefnogaeth iddynt yn eu cylch. Efallai y byddant yn gofyn i chi am help ymarferol, fel eu helpu i drefnu eu cyllid. Neu efallai y byddant yn gofyn i chi am gefnogaeth emosiynol, fel mynychu apwyntiad gyda nhw.
Os ydych chi'n ymwneud yn agos ? gofal rhywun, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i chi siarad ? meddygon am eu triniaeth, helpu i wneud penderfyniadau neu eirioli drostyn nhw. Gallwch ddarganfod mwy am hyn yn ein hadnodd ar ofalu am rywun sydd ? salwch meddwl.
Cymorth ariannol
Gallai'r person rydych chi'n ei adnabod fod mewn perygl o wario llawer o arian pan fydd yn s?l, neu o gael ei ecsbloetio'n ariannol gan eraill. Os yw hyn yn wir, efallai y byddwch chi'n gallu eu helpu i roi rhai camau ar waith i amddiffyn eu harian. Mae'n rhaid i hyn fod yn benderfyniad a wneir rhyngoch chi'ch dau.
Gallwch ddarganfod mwy am fudd-daliadau, cyngor ariannol a dyled yn ein hadnodd gwybodaeth. Gallwch hefyd i ddarllen mwy am arian, dyled a chymorth ariannol i bobl sydd ? salwch meddwl.
Gallwch hefyd ymweld , neu . Dylech allu siarad ? chynghorydd am y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, ac efallai y byddant yn gallu eich cefnogi i lenwi ffurflenni a chael tystiolaeth ategol.
Deall camddychmygion
Gall fod yn anodd i deulu a ffrindiau wybod sut i ymateb pan fydd gan rywun maen nhw'n ei adnabod meddyliau neu syniadau sy'n amlwg yn anghywir. Mae teulu a ffrindiau yn aml yn meddwl tybed a ddylid herio'r meddyliau hyn, cytuno ? nhw, neu eu hanwybyddu. Mae'n bwysig cofio y gall fod yn amhosibl i¡¯r person sy¡¯n profi symptomau anhwylder sgitsoaffeithiol wahaniaethu rhwng y symptomau hyn a realiti.
Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n fwy defnyddiol dilysu eu teimladau, yn hytrach na'r credoau sy'n achosi eu teimladau. Er enghraifft, os yw'r person rydych chi'n ei adnabod yn ofni eu bod o dan wyliadwriaeth gan y llywodraeth, yn hytrach na cheisio eu perswadio nad yw hyn yn digwydd, gallech ymateb i'r teimladau maen nhw'n eu cael trwy ddweud:
"Mae hynny'n swnio'n frawychus iawn, mae'n wir ddrwg gen i. A oes unrhyw beth y gallaf i ei wneud i'ch helpu chi i deimlo'n fwy diogel?"
Yn anffodus, ni fyddwch bob amser yn gallu helpu rhywun i deimlo'n well pan fyddant mewn argyfwng.
"Mae fy ng?r yn dweud eich bod chi'n dwyn fy arian i gyd, byddaf yn dweud bod yn ddrwg iawn gen i fod hynny¡¯n achosi gofid i chi, gadewch i ni weld beth allwn ni ei wneud amdano". Janet
Os ydych chi'n ofalwr
Os ydych chi'n treulio amser yn gofalu am rywun sydd ? salwch meddwl, efallai y byddwch chi'n cael eich ystyried yn 'ofalwr'. Gall gofalu am rywun sydd ag anhwylder sgitsoaffeithiol fod yn anodd iawn ar adegau, ac mae'n bwysig eich bod chi'n gallu cefnogi eich iechyd corfforol a meddyliol eich hun hefyd. Hyd yn oed os nad ydych chi'n gweld eich hun fel gofalwr, gallech fod ? hawl i rai budd-daliadau a chefnogaeth.
Os ydych chi'n ofalwr, mae gennych hawl i asesiad gofalwr yn rhad ac am ddim. Bydd hyn yn helpu i weithio allan beth allai wneud eich bywyd yn haws. Gallwch ddarganfod mwy am sut i gael un ar .
Efallai y byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i grwpiau cymorth lleol yn benodol ar gyfer gofalwyr a ffrindiau a theulu eraill pobl sydd ag anhwylder sgitsoaffeithiol.
Darganfyddwch fwy am hyn yn ein hadnodd ar ofalu am rywun ? salwch meddwl.
¡°Pan gefais ddiagnosis gyntaf yn 1986, dywedwyd wrthyf fod fy mhriodas yn fethiant ac nad oedd fy ng?r a minnau yn addas i'n gilydd a¡¯i fod drosodd. Dywedwyd wrthyf na fyddwn i byth yn ddigon da i gael plant a bod fy nisgwyliad oes tua 50 ar y feddyginiaeth ar y pryd. Rydw i bellach yn 65 gyda dau o blant a ?yr, ac rydw i wedi bod yn briod am 43 mlynedd. Felly mae gobaith, mae gobaith bob amser." Debra
- , NICE ¨C Mae'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) yn darparu canllawiau ar y safonau gofal a thriniaeth y dylai pobl ? chyflyrau iechyd gwahanol eu derbyn. Mae'r wybodaeth hon ar gyfer aelodau o'r cyhoedd ac yn edrych ar y canllawiau i oedolion ? seicosis, sgitsoffrenia ac anhwylder sgitsoaffeithiol.
- ¨C Mae Debtline yn elusen gofrestredig sy'n darparu cyngor arbenigol, diduedd yn rhad ac am ddim. Mae'r dudalen hon ar eu gwefan yn edrych ar ddyled ac iechyd meddwl.
Elusennau
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy arall am anhwylder sgitsoaffeithiol a phroblemau iechyd meddwl eraill trwy'r elusennau canlynol:
Adnoddau cysylltiedig
Isod, nodir rhai o'n hadnoddau sy'n gysylltiedig ag anhwylder sgitsoaffeithiol a'r gefnogaeth a¡¯r driniaeth sydd ar gael a all fod yn ddefnyddiol i chi:
Cyflyrau eraill
Triniaethau
Cefnogaeth a gofal
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu ?'r Cyhoedd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (PEEB). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu.
Awduron arbenigol: Dr Declan Hyland, Dr Angeliki Tziaka, Dr John Crosby a Dr Louay ElTagy
Arbenigwyr yn ?l profiad: Alice Evans, Ashley Nsimbi, Debra Knychala, Janet Seale, Mark Ellerby a Michael Robinson a Dr Sofija Opacic.
Cyfeiriadau ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (Sep 2025)