萝莉视频

Anhwylder gamblo

Gambling disorder

Below is a Welsh translation of our information resource on gambling disorder. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd ? phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Dyma wybodaeth ar gyfer unrhyw un sy’n poeni am eu harferion gamblo neu sy’n adnabod rhywun y mae eu harferion gamblo yn broblemus.

Anhwylder gamblo yw patrwm ailadroddus o ymddygiad gamblo pan mae:

  • rhywun yn teimlo ei fod wedi colli rheolaeth ar y gamblo
  • rhywun yn parhau i gamblo neu gynyddu swm yr arian maen nhw’n ei wario wrth gamblo er gwaethaf y canlyniadau negyddol
  • gamblo yn blaenoriaethu dros ddiddordebau neu weithgareddau eraill.

Weithiau, cyfeirir at anhwylder gamblo fel bod yn gaeth i gamblo, problem gamblo neu gamblo anniwall.

Gall anhwylder gamblo gael effaith fawr ar eich bywyd personol a bywyd eich teulu, eich gwaith a’ch addysg, a'r pethau rydych chi’n eu mwynhau.

Yn y DU, mae gamblo yn weithgaredd gweddol gyffredin. Mae nifer o bobl sy’n gamblo yn profi canlyniadau negyddol drwy wneud hynny, ac yn ei chael hi’n anodd cadw trefn ar eu gamblo.

Mae gan oddeutu 2-3 ym mhob 100 o bobl anhwylder gamblo.  Mae 8-12 ym mhob 100 o bobl yn gamblo mewn ffyrdd sydd naill ai’n niweidiol neu mewn risg o ddod yn niweidiol yn y dyfodol.

Mae yna nifer o wahanol fathau o ymddygiad gamblo. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o gamblo drwy beiriannau gemau electronig neu slots, cardiau crafu, y loteri, betio ar chwaraeon neu gemau casino. Serch hynny, gall rhai pobl hefyd gamblo drwy roi betiau ar gynnyrch sy’n fuddsoddiad neu wario arian er mwyn ennill gwobrau mewn gemau ar-lein neu ar ffonau symudol.

Yn aml, nid yw pobl yn sylweddoli bod y rhain hefyd yn fath o gamblo ac yn ei chael hi’n anodd cydnabod eu bod wedi colli rheolaeth.

Yn yr un modd ? phroblemau iechyd meddwl, nid oes yna un achos clir o anhwylder gamblo. Mae yna resymau biolegol, genetig, amgylcheddol a seicolegol dros pam all rywun ddatblygu anhwylder gamblo.

Ffactorau risg

Gall unrhyw un ddatblygu anhwylder gamblo. Serch hynny, gwyddom mai ymhlith rhai pobl y gall y broblem fod yn fwy tebygol o ddatblygu. Dyma rai ffactorau a all eich gwneud chi yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder gamblo:

  • Rhywedd – Os ydych chi’n wryw, rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o gael anhwylder gamblo, er bod y gyfradd o ferched sydd ag anhwylder gamblo yn cynyddu’n gyson.
  • Ethnigrwydd a hil – Os ydych chi o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, rydych chi saith gwaith yn fwy tebygol o gael anhwylder gamblo.
  • Hanes yn y teulu – Os oes yna rywun yn eich teulu sydd ? hanes o anhwylder gamblo neu fod yn gaeth i unrhyw beth arall, yn enwedig os mai eich rhieni chi ydy'r rheini.
  • Hanes personol o gamblo – Os ydych chi wedi cael neu weld rhywun yn ennill yn dda pan oeddech yn ifanc neu’n fuan ar ?l dechrau gamblo.
  • Cyffuriau ac alcohol – Os ydych chi’n yfed yn drwm neu’n cymryd cyffuriau anghyfreithlon.
  • Iechyd meddwl – Os oes gennych chi gyflyrau iechyd meddwl eraill, fel anhwylder hwyliau, anhwylder gorbryder, neu fathau eraill o fod yn gaeth i rywbeth, fel dibyniaeth ar alcohol neu anhwylder defnyddio sylweddau.
  • Gweithle – Os ydych chi’n gweithio mewn safle gamblo, fel casino, siop fetio neu arcêd.
  • Anawsterau ariannol – Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd yn ariannol neu’n ddi-waith.
  • Iechyd corfforol – Os ydych chi’n cael problemau iechyd corfforol neu sawl anhwylder iechyd corfforol.
  • Meddyginiaeth – Os ydych chi’n cymryd rhyw fath o feddyginiaeth at eich iechyd corfforol neu feddwl sy’n effeithio ar ddopamin, sef cemegyn yn eich ymennydd. Ymhlith enghreifftiau o’r meddyginiaethau hyn mae pramipecsol, ropinirol, rotigotin ac aripiprasol. Caiff y meddyginiaethau hyn eu defnyddio i drin cyflyrau fel clefyd Parkinson’s, sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.

Mae yna nifer o fathau o niwed sydd ynghlwm ag anhwylder gamblo, a gall y rhain amrywio o’r naill unigolyn i’r llall. Er enghraifft, mae pobl sydd ag anhwylder gamblo yn fwy tebygol nag eraill o brofi'r canlynol:

Niwed ariannol

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • biliau cyfleustodau hwyr
  • benthyca gan deulu, ffrindiau neu fenthycwyr arian didrwydded
  • dyledion mawr
  • gwystlo neu werthu eiddo
  • troi allan o d? neu adfeddu
  • methu ? thalu benthyciad yn ?l
  • cyflawni gweithredoedd anghyfreithlon fel twyll, dwyn neu embeslu er mwyn ariannu’r gamblo
  • methdaliad
  • hanes credyd gwael.

Niwed i’r teulu

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • eich sylw yn cael ei dynnu at y gamblo sy’n golygu bod bywyd arferol y teulu yn anodd
  • mwy o ffraeo oherwydd arian a dyledion
  • cam-drin emosiynol a chorfforol neu esgeuluso anwyliaid
  • problemau gyda’r berthynas, a gwahanu ac ysgaru.

Niwed i iechyd

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • hunan-barch isel
  • anhwylderau yn ymwneud ? straen
  • gorbryder, poeni neu amrywiadau mewn hwyliau
  • cwsg ac awydd bwyd gwael
  • camddefnyddio sylweddau
  • iselder
  • meddyliau am hunanladdiad ac ymgeisiau o hunanladdiad.

Niwed i ysgol/coleg/gwaith

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • perfformiad gwael yn yr ysgol, coleg neu waith
  • ei chael hi’n anodd cynnal swydd
  • colli gwaith, absenoldeb salwch neu’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio ar dasgau neu eu cwblhau
  • diarddeliad neu golli swydd.

Os ydych chi’n adnabod unrhyw rai o’r niweidiau hyn yn eich ymddygiad eich hun, dylech geisio cymorth.

Os ydych chi’n credu efallai fod gennych chi anhwylder gamblo, yna y peth gorau i’w wneud yw ceisio cymorth. Pan fyddwch chi wedi gwneud hyn, mae modd i chi bennu pa un ai a ydych chi’n barod i roi'r gorau iddi neu, yn hytrach, eich bod eisiau dysgu i reoli eich ymddygiad gamblo. Mae nifer o bobl sy’n awyddus i reoli eu hymddygiad gamblo yn penderfynu yn ddiweddarach i roi’r gorau iddi yn gyfan gwbl pan maen nhw'n dechrau ceisio cymorth.

Gall rheoli ymddygiad gamblo fod yn anodd. Gwyddom pan mae gamblo yn dod yn broblem i rywun, y gall fod yn anodd iddynt gynnal rheolaeth a pheidio ? dychwelyd i gamblo’n broblematig. Mae hyn yn debyg i ymddygiadau eraill o fod yn gaeth i rywbeth, fel alcohol neu anhwylder defnyddio sylweddau.

Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT)

Math o therapi siarad ydy CBT. Mae’n helpu pobl i reoli eu hanawsterau drwy eu cefnogi i ddod o hyd i ffyrdd mwy defnyddiol o feddwl ac ymddwyn.

Yn ?l tystiolaeth, os oes gennych chi anhwylder gamblo, yn aml byddwch chi'n meddwl yn wahanol am gamblo na phobl eraill. Efallai y byddwch chi’n credu’r canlynol:

  • eich bod yn fwy tebygol o ennill na phobl eraill
  • mewn gêm sy’n cynnwys gwahanol rifau, fel rwlét, mae’n debygol y bydd rhai rhifau yn ymddangos yn amlach nag eraill
  • mae ennill ddwywaith yn olynol yn golygu eich bod chi ar ‘str?c o ennill’
  • rydych chi’n fwy tebygol o ennill gêm hapchwarae os ydych chi’n gyfarwydd ? hi
  • gall rhai defodau ddod ? lwc dda i chi
  • ar ?l colli, gallwch chi ennill yn ?l yr hyn yr ydych chi wedi’i golli drwy gamblo fwy.

Yn ?l ymchwil, gall CBT eich helpu chi i ddod o hyd i ffyrdd mwy defnyddiol o feddwl ac ymddwyn. Gall hefyd eich ysgogi chi i feddwl am fywyd y tu hwnt i gamblo, a:

  • lleihau nifer y dyddiau rydych chi’n gamblo
  • lleihau swm yr arian rydych chi’n ei golli ac
  • eich helpu chi i gadw draw rhag gamblo am gyfnod hirach pan fyddwch chi wedi rhoi’r gorau iddi.

Fel arfer, cyflwynir CBT ar gyfer gamblo dros nifer o sesiynau, naill ai’n unigol neu mewn gr?p. Fel rhan o CBT, byddwch yn:

  • dysgu strategaethau i leihau eich cyfleoedd i gamblo
  • rheoli eich ysfa a'r pethau sy’n eich ysgogi chi
  • herio rhai o’ch meddyliau sy’n gysylltiedig ? gamblo.

Yn aml, mae yna dasgau i’w cwblhau rhwng y sesiynau i'ch helpu chi i ddatblygu ar y pynciau y gwnaethoch eu trafod yn ystod y therapi.

Gall therapi ar gyfer gamblo gynnwys technegau fel:

  • cyfweliad ysgogol - mae hyn yn helpu pobl i adnabod a gweithredu am eu rhesymau eu hunain dros fod eisiau rhoi’r gorau iddi
  • disensiteiddio dychmygus – dyma dechneg sy’n cynnwys unigolion yn dychmygu eu bod yn cael eu hamlygu i'r hyn sy’n ysgogi iddynt gamblo, ond yn peidio ? gweithredu arnynt
  • ailstrwythuro gwybyddol – dyma strategaeth i adnabod, gwerthuso, ac addasu ffyrdd o feddwl sy’n anghywir neu’n annefnyddiol yn ymwneud ? gamblo.

Meddyginiaeth

Mae naltrecson yn fath o feddyginiaeth sy’n cael ei defnyddio’n gyffredin i drin dibyniaeth ar alcohol ac opioidau. Gwyddom fod yna dystiolaeth dda y gall fod yn ddefnyddiol i drin anhwylder gamblo hefyd. Gall naltrecson fod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl sydd:

  • wedi rhoi cynnig ar therapi seicolegol o'r blaen ond sydd wedi methu ? rhoi’r gorau i gamblo neu
  • yn dal i gael ysfa gref i gamblo neu
  • yn llithro’n ?l i ddechrau gamblo dro ar ?l tro.

Gall helpu pobl i leihau eu gamblo a chadw draw rhag gamblo. Mae yna opsiynau eraill am feddyginiaeth i drin anhwylder gamblo, ond naltrecson yw’r unig un sydd wedi’i rhestru yng nghanllawiau NICE ar hyn o bryd. Yn ogystal, mae yna ddolen yn y canllawiau NICE at y canllawiau presgripsiynu cenedlaethol ar gyfer naltrecson i drin anhwylder gamblo.

Yn gyffredinol, caiff meddyginiaeth ar gyfer anhwylder gamblo ei dechrau gan arbenigwr, fel seiciatrydd ymgynghorol yn gweithio fel rhan o Wasanaeth Trin Gamblo’r GIG. Nid yw Meddygon Teulu fel arfer yn rhoi naltrecson, ond mae'n bosibl y byddant yn ymgymryd ?’r gwaith o fonitro a phresgripsiynu ar ?l i’r arbenigwr gwblhau'r titradiad cychwynnol a bod yna ddos diogel ac effeithiol wedi’i sefydlu. 

Mae cyflyrau iechyd meddwl eraill yn gyffredin ymhlith pobl sydd ag anhwylder gamblo. Yn yr achosion hyn, gellir presgripsiynu meddyginiaethau fel gwrth-iselyddion. Pan fydd y cyflwr iechyd meddwl wedi’i reoli’n well, gall yr anhwylder gamblo hefyd wella.

Cymorth ychwanegol

Mae'n bosibl y bydd angen cymorth ymarferol arnoch chi hefyd, fel:

  • rheoli eich dyledion
  • cefnogaeth gan bobl sydd wedi wynebu problemau gamblo eu hunain
  • ymdrin ? phroblemau yn y teulu neu
  • trin problemau seicolegol/seiciatrig eraill.

Efallai y bydd modd i chi gael cymorth ar gyfer y rhain gan eich Meddyg Teulu neu gan sefydliad gwirfoddol neu gymunedol. 

Bydd oddeutu 1 ym mhob 3 o bobl sydd ag anhwylder gamblo yn gwella eu hunain, heb driniaeth. Bydd oddeutu 2 ym mhob 3 yn parhau i gael problemau, sy’n dueddol o waethygu.

Mae yna sawl rheswm pam nad yw rhywun yn cael cymorth gyda’i anhwylder gamblo.

Yn aml, gall pobl sydd ag anhwylderau gamblo ei chael hi’n anodd cydnabod bod eu hymddygiad gamblo yn broblem neu efallai y byddant yn canolbwyntio fwy ar yr agweddau cadarnhaol, fel ennill arian neu gymdeithasu. Hyd yn oed os ydy rhywun yn cydnabod bod ei ymddygiad gamblo yn broblem, gall y canlynol ei rwystro rhag cael cymorth:

  • stigma
  • teimlo cywilydd
  • ddim eisiau i eraill ddod i wybod
  • bod mewn dyled ac yn poeni am y canlyniadau.

Credir fod merched, pobl o gefndiroedd tlotach a phobl o gefndir Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig yn llai tebygol o geisio cymorth am eu hanhwylder gamblo. Gall hyn fod oherwydd:

  • ansicrwydd lle i fynd am gymorth
  • y stigma
  • y gost neu’r amser a gymerir i geisio neu fynd i ganolfan driniaeth.

Mae’n bwysig gofyn am gymorth proffesiynol os oes gennych chi anhwylder gamblo. Yn y cyfamser, dyma rai mesurau syml ac ymarferol i leihau gamblo:

1. Cyfyngwch y swm o arian ydych chi’n ei wario wrth gamblo

  • Gosodwch gyfyngiad o’r dechrau ar y swm o arian ydych chi’n fodlon ei wario mewn un sesiwn neu wythnos, a glynwch wrth hynny.
  • Gadewch eich cardiau credyd/arian gartref pan fyddwch chi’n mynd allan i gamblo.
  • Gosodwch gyfyngiadau ar alldynnu arian ar eich cyfrif banc.
  • Ar ddiwrnod cyflog, anelwch at dalu eich biliau i gyd yn gyntaf neu drosglwyddo arian o'ch cyfrif i gyfrif cynilo.
  • Cofrestrwch i fanc sy’n cynnig rhwystr rhag gamblo ar eich cyfrif banc, fel Barclays neu Monzo.

2. Cofrestrwch i wasanaeth hunan-eithrio

Pan mae gennych chi fynediad digyfyngedig at wasanaethau gamblo, mae hi’n anodd gwrthsefyll y temtasiwn i gamblo. Mae gwasanaethau gamblo ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ei gwneud hi’n bosibl i bobl osod rhwystr rhag gamblo. Dyma rai enghreifftiau:

Ar-lein
– mae GAMSTOP yn eich galluogi chi i roi rheolyddion ar waith i gyfyngu eich gweithgareddau gamblo ar-lein.
– Mae Gamban yn eich helpu chi i rwystro mynediad at gamblo ar-lein ar eich dyfeisiau i gyd.

Siopau betio
(MOSES), Rhif ff?n: 0800 294 2060 – Mae MOSES yn caniatáu i bobl eithrio eu hunain rhag siopau betio.

Casinos
(SENSE) – Mae SENSE yn caniatáu i bobl eithrio eu hunain rhag casinos yn y DU. Gallwch hefyd siarad gyda'r rheolwr yn eich casino lleol

Bingo
– Mae Cynllun Hunan-eithrio y Diwydiant Bingo yn caniatáu i bobl eithrio eu hunain rhag neuaddau bingo yn y DU. Gallwch hefyd siarad gyda'r rheolwr yn eich neuadd bingo lleol.

Arcedau
Gallwch godi'r ff?n a galw 020 7730 644 i eithrio eich hunain rhag arcedau adloniant neu siaradwch ? rheolwr eich arcêd lleol.

Y Loteri
– Mae'r Loteri Genedlaethol yn cynnig ffyrdd i reoli eich ymddygiad gamblo, yn cynnwys cyfyngu'r swm yr ydych chi’n ei wario a faint ydych chi’n ei chwarae, nodiadau atgoffa o sesiynau, a chadw cofnod o’ch chwarae, neu ei oedi.

Gallwch hefyd eithrio eich hun rhag gwasanaethau loteri lleol eraill, fel y Loteri Cod Post, ac mae rhagor o wybodaeth ynghylch hyn i’w chael ar eu gwefannau.

3. Lleihewch faint o amser ydych chi’n ei dreulio yn gamblo

  • Gosodwch gyfyngiad i chi’ch hunain o ran sawl gwaith yr wythnos y byddwch chi’n gamblo.
  • Osgowch ddweud wrthych chi’ch hunain “mi ro i gynnig sydyn arni”.
  • Gosodwch larwm ar eich oriawr neu’ch ff?n i’ch atgoffa chi i roi'r gorau iddi.
  • Cerddwch oddi yno pan fyddwch wedi cyrraedd yr amser ydych chi wedi’i gytuno ei neilltuo ar gyfer gamblo.

4. Peidiwch ag ystyried gamblo fel ffordd o wneud arian

  • Cofiwch mai prynu adloniant ydych chi.
  • Byddwch yn barod i golli bob amser. Os ydych chi’n ennill, cofiwch mai ar hap y bydd hynny’n digwydd.
  • Peidiwch byth ? gwario eich cynilion na’ch buddsoddiadau ar gamblo.
  • Gofynnwch i ffrindiau a theulu beidio ? rhoi benthyg arian i chi, hyd yn oed os ydych chi’n gofyn iddyn nhw.

5. Treuliwch amser yn gwneud gweithgareddau eraill

  • Treuliwch fwy o amser gyda’ch teulu neu ffrindiau.
  • Dechreuwch hobi neu cymerwch ddiddordeb yn rhywbeth newydd, neu ail-afael mewn diddordeb yr oeddech yn ei fwynhau cyn i’r gamblo oresgyn popeth.
  • Ymunwch ? gr?p cymdeithasol neu ewch ati i drefnu digwyddiadau gyda ffrindiau nad ydynt yn gamblo.
  • Siaradwch ag eraill am eich pryderon.

Mae bod yn agos ? rhywun sydd ag anhwylder gamblo yn gallu bod yn brofiad anodd iawn. Efallai eich bod yn teimlo llu o emosiynau gwahanol, fel poen, diffyg ymddiriedaeth, tristwch a phryder ynghylch y dyfodol. Efallai eich bod chithau hefyd wedi dioddef yn ariannol ac yn teimlo’n bryderus am ymdopi.

Yn dibynnu ar eich perthynas, gall sgyrsiau am gamblo fod yn heriol neu deimlo’n anniogel. Weithiau, ni fydd y sawl yr ydych chi’n poeni yn ei gylch eisiau siarad neu’n methu ? siarad ynghylch sut mae’n ymdopi a pha un ai a ydyw’n dal i gamblo. Neu efallai y byddwch chi’n gweld bod eich teimladau chi, fel dicter er enghraifft, yn eich rhwystro rhag cael sgwrs ddefnyddiol.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd ag anhwylder gamblo, gallwch:

  • geisio cymorth gyda’ch teimladau chi a rhoi cyfle i chi’ch hunan drafod y penblethau yr ydych chi’n eu hwynebu
  • gwella eich dealltwriaeth o gamblo a'r driniaeth
  • ceisio cymorth i feddwl am y gwahanol ffyrdd o ymateb i’r unigolyn rydych chi’n poeni yn ei gylch
  • diogelu eich arian a chael cymorth os ydych chi’n ei chael hi’n anodd yn ariannol
  • ceisio cymorth i aelodau eraill eich teulu a all fod wedi’u heffeithio hefyd, fel plant.

Drwy gael cymorth i chi’ch hunan, byddwch mewn sefyllfa well i gefnogi’r unigolyn yn eich bywyd sy’n gamblo. Efallai y byddwch chi’n gweld budd drwy geisio cymorth gan: 

  • grwpiau cefnogaeth gyfoed
  • sesiynau cwnsela
  • grwpiau cymorth i deuluoedd, a all gynnig gwybodaeth a bod yn ffordd i chi gael cymorth emosiynol ac ymarferol
  • therapi i deuluoedd a chyplau, i’ch helpu chi i feddwl am sut mae eich perthnasoedd wedi’u heffeithio a dod o hyd i ffordd ymlaen.

Gall rhai o’r gwasanaethau yn yr adran nesaf gynnig cymorth i bobl sy’n adnabod rhywun sydd ag anhwylder gamblo, yn yr un modd ? rhai sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. 

Peidiwch ag aros i bethau waethygu. Drwy estyn allan am gymorth, gallwch gymryd y camau cyntaf i reoli eich gamblo a dechrau teimlo bod gennych fwy o reolaeth dros bethau.

Gall unrhyw un sy’n teimlo effeithiau niweidiol gamblo geisio Gwasanaethau Gamblo'r GIG drwy hunangyfeirio, neu drwy eu cyfeirio gan weithiwr proffesiynol ym maes iechyd a gofal. Gellir gwneud hyn drwy’r dolenni at wefannau'r gwasanaethau a nodir isod.

– Mae'r National Gambling Clinic, a sefydlwyd yn 2008, yn cefnogi pobl sy’n profi effeithiau niweidiol gamblo ac sydd rhwng 13 a 18 oed o unrhyw le yn Lloegr, ac sy’n 18 oed neu’n h?n yn Llundain.

Mae’r Northern Gambling Service yn wasanaeth gan y GIG sy’n cynnig cymorth arbenigol i bobl sydd ag anhwylder gamblo, ac mae’r gwasanaeth ar gael yng ngogledd-orllewin Lloegr, gogledd-ddwyrain Lloegr, a Swydd Efrog a’r Humber.

- Mae’r Southern Gambling Service yn cynnig asesiadau o safon a thriniaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth ar gyfer pobl sydd ag anhwylder gamblo neu sydd wedi’u niweidio oherwydd gamblo.  Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bobl 17 oed a h?n sy’n byw yn ne-ddwyrain Lloegr, neu sydd wedi’u cofrestru ? Meddyg Teulu yn yr ardal honno.

- Mae’r West Midlands Gambling Harms Service yn cynnig therapi, triniaeth ac adferiad arbenigol i broblemau yn ymwneud ? dibyniaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth ar gamblo a phroblemau gamblo ar draws rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr.

– Mae’r East Midlands Gambling Harms Service yn cynnig therap?au, triniaeth ac adferiad arbenigol i'r rheini sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth ar gamblo a phroblemau gamblo yn rhanbarth Dwyrain Canolbarth Lloegr.

- Mae’r East of Englang Gambling Service yn wasanaeth gan y GIG sy’n cynnig triniaeth a chymorth arbenigol i unigolion a theuluoedd sydd ? phrofiadau o effeithiau negyddol gamblo yn rhanbarth dwyrain Lloegr.

– Mae’r South West Gambling Service yn cynnig cymorth arbenigol cyfrinachol rhad ac am ddim i bobl sy’n byw yn ne-ddwyrain Lloegr sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth ar gamblo.

Adnoddau yn ymwneud ? cham-drin domestig

Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn profi cam-drin domestig oherwydd anhwylder gamblo, neu os ydych chi’n credu bod eich gamblo yn eich arwain at ymddygiadau difr?ol, dyma rai adnoddau defnyddiol:

– Mae Respect yn elusen i bobl sy’n credu eu bod yn dangos ymddygiadau difr?ol ac sydd eisiau cymorth.

, Gov.uk – Mae'r wefan hon yn cynnig adnoddau defnyddiol i bobl sy’n cael profiadau o gam-drin domestig ledled y DU.

, NSPCC – Os ydych chi’n poeni bod plentyn yn dioddef o gam-drin neu esgeulustod, gall yr NSPCC gynnig cyngor i chi.

  • Bowden-Jones, H. a Leonidaki, V. 2022. Breaking Free: How To Stop Gambling. Cambridge University Press.
  • Blaszczynski, A., 2010. Overcoming compulsive gambling. Hachette, y DU.
  • Goodwin, S., 2021. The Girl Gambler: A young woman's story of her escape from gambling addiction. Hunan-gyhoeddedig, y DU.
  • Lynch,D ac O’Reilly, T., 2019. Tony 10: The Astonishing Story of the Postman who Gambled EURO10,000,000 ... and lost it all. Gills Books, y DU.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygu Ymgysylltu ?’r Cyhoedd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae’n adlewyrchu’r dystiolaeth orau sydd ar gael ar yr adeg ysgrifennu.

Awduron arbenigol: Yr Athro Henrietta Bowden–Jones OBE, Yr Athro Sam Chamberlain, Jenny Cousins, Zoe Delaney, a Dr Konstantinos Ioannidis

Arbenigwr drwy brofiad: Owen Baily, Gweithiwr Cefnogaeth Gyfoed yn y Clinig Problem Gamblo Cenedlaethol.

Tachwedd 2025 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion 

This translation was produced by CLEAR Global (Nov 2025)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry