Problemau ymddygiad
Behavioural problems for parents and carers
Below is a Welsh translation of our information resource on behavioural problems for parents and carers. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd ? phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r adnodd hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n poeni am broblemau ymddygiad eu plentyn. Mae hefyd yn trafod anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol ac anhwylder ymddygiad anghymdeithasol. Mae'n egluro beth yw'r cyflyrau hyn, pam maen nhw'n digwydd a pha gefnogaeth sydd ar gael.
Mae'r rhan fwyaf o blant yn ymddwyn mewn ffyrdd heriol o bryd i'w gilydd. Mae'n annhebygol iawn y bydd eich plentyn chi yn ymddwyn yn berffaith bob amser.
Mewn plant iau, gall problemau ymddygiad edrych fel strancio mewn archfarchnad neu frifo brawd neu chwaer. Gall plant h?n dorri'r rheolau rydych chi'n eu gosod drwy aros allan yn hwyrach nag y dylen nhw neu ymddwyn yn anghwrtais neu'n ymosodol.
Gall problemau ymddygiad fynd a dod. Er enghraifft, mae plant weithiau'n 'chwarae i fyny' os oes rhywbeth sy'n achosi straen yn digwydd yn eu bywydau. Ar adegau eraill, gall fod yn ffordd o gyfleu eu bod yn rhwystredig, yn flinedig neu'n bryderus, neu fod rhywbeth anodd yn digwydd yn eu bywyd.
Weithiau mae rhieni ac ysgolion yn gallu mynd i'r afael ?'r problemau ymddygiad hyn cyn iddyn nhw ddod yn ddifrifol. Fodd bynnag, weithiau mae problemau ymddygiad yn dod yn broblem fwy ac maen nhw'n gallu achosi problemau i'ch plentyn mewn un neu fwy o'r amgylcheddau hyn:
- yn yr ysgol
- yn y cartref
- gyda'u ffrindiau ac aelodau eraill o'r teulu.
Os yw problemau ymddygiad eich plentyn wedi bod yn amlwg ers amser maith neu os ydyn nhw'n ddifrifol, efallai y bydd angen i chi ofyn am fwy o gefnogaeth.
Mae cymryd y cam cyntaf i gael cymorth ar gyfer problemau ymddygiad eich plentyn yn gallu bod yn eithriadol o anodd. Efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod chi ar fai, neu fod pobl yn mynd i'ch beio chi am ymddygiad eich plentyn. Beth bynnag yw'r rhesymau dros broblemau ymddygiad eich plentyn, dylech longyfarch eich hun am ofyn am gymorth a gweithio i wella pethau i'ch plentyn a'ch teulu.
Os yw problemau ymddygiad eich plentyn yn achosi heriau o ran ei addysg neu fywyd cartref, mae'n bwysig gofyn am gymorth. Bydd y math o gymorth sydd ei angen arnoch chi yn dibynnu ar oed eich plentyn, ac unrhyw broblemau eraill y gallai fod yn eu profi.
Plant iau
Os yw eich plentyn o dan bump oed, siaradwch ?'ch ymwelydd iechyd. Mae'r rhain yn nyrsys neu fydwragedd hyfforddedig a allai fod wedi ymweld ? chi a'ch plentyn pan gafodd eich plentyn ei eni. Maen nhw'n gallu parhau i'ch cefnogi chi nes bod eich plentyn yn bump oed. Gallwch ddysgu mwy am ymwelwyr iechyd ar wefan yr elusen beichiogrwydd a babanod .
Plant h?n
Os bydd eich plentyn yn cael problemau yn yr ysgol, dylai ei ysgol weithio gyda chi i greu cynllun. Dylai’r cynllun hwn helpu i lunio strategaethau ar gyfer ymateb i ymddygiad eich plentyn er mwyn ei helpu i ddal i fynd i’r ysgol a chael y gorau o’i addysg. Ar yr un pryd gall y cynllun hwn helpu i gadw eich plentyn chi a phlant eraill yn ddiogel. Mae gan rai ysgolion athrawon a staff cymorth eraill sy’n gallu eich cefnogi gyda phroblemau ymddygiad a'ch cyfeirio at gymorth pellach os oes angen.
Os bydd eich plentyn yn cael problemau ymddygiad gartref hefyd, efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth a chefnogaeth gan wasanaeth cymorth rhianta lleol neu elusen cymorth i deuluoedd. Efallai y bydd ymwelwyr iechyd, meddygon teulu neu ysgolion yn gallu rhoi gwybod i chi am wasanaethau lleol.
Cefnogaeth bellach
Os yw'r problemau hyn yn fwy difrifol ac yn ei gwneud hi'n anodd i'ch plentyn neu i'ch teulu fyw bywyd normal, gallai eich plentyn elwa o gael asesiad ar gyfer anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol neu anhwylder ymddygiad anghymdeithasol. Mae rhagor o wybodaeth am y cyflyrau hyn isod. Siaradwch ?'ch meddyg teulu os oes angen mwy o gymorth arnoch chi o ran problemau ymddygiad eich plentyn.
Mae anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol ac anhwylder ymddygiad anghymdeithasol yn rhan o gr?p o 'anhwylderau ymddygiad aflonyddgar ac anghymdeithasol'. Yn y gorffennol roedd anhwylder ymddygiad anghymdeithasol yn cael ei alw'n 'anhwylder ymddygiad'.
Efallai y bydd eich plentyn yn cael diagnosis o un o'r cyflyrau hyn os oes ganddo broblemau ymddygiad parhaus. Er enghraifft, os yw bob amser yn:
- Herfeiddiol – Mae'n gwrthod gwneud yr hyn a ofynnir iddo ei wneud.
- Anufudd – Mae'n gwneud pethau y mae'n gwybod na ddylai eu gwneud.
- Herllyd – Mae'n gwneud pethau i gythruddo neu gynhyrfu eraill yn fwriadol.
Gall yr ymddygiad hwn hefyd gynnwys agweddau mwy difrifol fel:
- tarfu ar hawliau pobl eraill
- torri rheolau
- a hyd yn oed torri'r gyfraith.
Mae'n normal bod geiriau mor gryf, neu eich plentyn yn cael diagnosis o un o'r cyflyrau hyn, yn achosi pryder. Fodd bynnag, dim ond enwau y mae ymchwilwyr wedi eu rhoi ar grwpiau o symptomau yw'r rhain. Mae'r enwau hyn yn helpu ymchwilwyr a meddygon i:
- gyfathrebu ?'i gilydd
- datblygu mwy o astudiaethau i ddeall sut i wella'r gofal a'r driniaeth y maen nhw'n eu rhoi i blant
- cynnig y llwybr gofal sydd fwyaf priodol i chi a'ch plentyn.
Cofiwch, nid yw llawer o blant sydd ? phroblemau ymddygiad yn dioddef o anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol nac anhwylder ymddygiad anghymdeithasol, ac nid oes angen cymorth arnyn nhw gan CAMHS na gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, bydd angen mwy o gymorth ar rai plant.
Anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol
Bydd ymddygiad plant sydd ag anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol yn dra:
- herfeiddiol
- anufudd
- dadleugar
- herllyd
- sbeitlyd
- pigog
- dig.
Bydd yr ymddygiad hwn yn digwydd mewn gwahanol leoliadau a chyda gwahanol bobl, nid gyda'u brodyr a'u chwiorydd neu eu rhieni yn unig.
Efallai y bydd plant sydd ag anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol yn:
- gwrthdaro ? phobl mewn awdurdod fel athrawon ac oedolion eraill
- cael trafferth dod ymlaen ? phobl eraill
- cael hyrddiau difrifol o dymer neu golli arni.
Er mwyn gwneud diagnosis o anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol, mae’n rhaid bod yr ymddygiadau hyn:
- wedi bod yn digwydd am fwy na chwe mis
- yn fwy difrifol na’r hyn sy'n nodweddiadol ar gyfer plant eraill o'r un oedran
- yn achosi problemau sylweddol i'ch plentyn yn y meysydd hyn:
- addysg
- cyfeillgarwch
- bywyd teuluol
- unrhyw amgylcheddau eraill.
Anhwylder ymddygiad anghymdeithasol
Bydd ymddygiad plant sydd ag anhwylder ymddygiad anghymdeithasol yn fwy difrifol nag ymddygiad plant sydd ag anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol. Gall hyn gynnwys:
- tarfu ar hawliau pobl eraill
- torri rheolau, neu hyd yn oed y gyfraith
- ymddwyn yn ymosodol tuag at bobl neu anifeiliaid
- dinistrio eiddo
- dweud celwydd, cuddio pethau neu ddwyn pethau
Er mwyn gwneud diagnosis o anhwylder ymddygiad anghymdeithasol, mae’n rhaid bod yr ymddygiadau hyn:
- wedi bod yn digwydd am o leiaf blwyddyn
- yn achosi problemau sylweddol i'ch plentyn yn y meysydd hyn:
- addysg
- cyfeillgarwch
- bywyd teuluol
- unrhyw amgylcheddau eraill.
Nodweddion cymeriad
Mae plant sy'n cael eu geni ? nodweddion fel pigogrwydd neu agweddau rhag-gymdeithasol cyfyngedig yn fwy tebygol o fod ? phroblemau ymddygiad na phlant sydd heb y nodweddion hyn. Rydyn ni'n egluro mwy am bigogrwydd ac agweddau rhag-gymdeithasol cyfyngedig isod.
Beth yw pigogrwydd?
Rydyn ni i gyd yn teimlo’n bigog o bryd i'w gilydd. Os ydych chi'n teimlo'n bigog, mae'n gallu teimlo fel eich bod chi'n fwy tebygol o droi ar rywun. Neu efallai eich bod chi'n teimlo eich bod chi'n llawn teimladau negyddol am beth sy'n digwydd o'ch cwmpas. Mae pob plentyn yn gallu teimlo'n bigog o bryd i'w gilydd.
Bydd plant pigog yn mynd yn ddig yn gyflymach ac yn amlach na phlant eraill o'r un oed. Efallai y byddwch chi'n meddwl am bigogrwydd fel 'dicter'. Efallai y byddwch chi hefyd yn clywed gweithwyr meddygol proffesiynol yn ei alw'n 'gamreoleiddio'. Gall plant pigog hefyd orymateb pan fydd rhywun yn dweud wrthyn nhw nad ydyn nhw'n cael gwneud rhywbeth, neu pan fydd rhywun yn gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth dydyn nhw ddim eisiau ei wneud.
Os yw eich plentyn chi yn bigog iawn, mae'n ddealladwy fod hyn yn gallu achosi rhwystredigaeth i chi fel rhiant. Gallai arwain at eich gwneud chi’n rhwystredig ac yn ddig, a allai wedyn waethygu dicter eich plentyn. Neu efallai y byddwch chi'n ildio ac yn gadael i'ch plentyn gael beth mae ei eisiau. Gall hyn beri i'ch plentyn ddysgu fod ymddygiad dig yn gallu ei helpu i gael beth mae ei eisiau. Gall deimlo ei bod hi’n amhosibl gwybod beth yw’r ‘peth iawn’ i’w wneud.
Dyma lle gall ymyriadau rhianta fod o gymorth, gan y byddwch chi'n cael cymorth i ddod o hyd i ffyrdd o ymdrin ag ymddygiad heriol sy'n ddefnyddiol i chi a'ch plentyn. Rydyn ni'n trafod ymyriadau rhianta yn yr adran gymorth yn yr adnodd hwn.
Beth yw agweddau rhag-gymdeithasol?
Fel arfer, mae plant yn teimlo rhywfaint o euogrwydd am wneud rhywbeth o'i le, neu am fynd i drafferth gyda pherson mewn awdurdod. Byddan nhw'n gallu dweud wrthych chi eu bod nhw'n edifar am beth maen nhw wedi'i wneud, ac ymddiheuro.
Fodd bynnag, mae yna nifer fach o blant sydd ddim yn teimlo fel hyn. Dywedir fod gan y plant hyn 'agweddau rhag-gymdeithasol cyfyngedig'.
Bydd plant sydd ag agweddau rhag-gymdeithasol cyfyngedig yn:
- teimlo dim, neu lai o, edifeirwch neu euogrwydd
- teimlo dim, neu lai o, empathi tuag at bobl eraill
- ymddangos nad ydyn nhw'n poeni dim am beidio ? gwneud yn dda yn yr ysgol neu mewn gweithgareddau eraill
- dangos llai o emosiynau, neu’n dangos emosiynau sy'n ymddangos yn arwynebol (ffug neu ffuantus).
Mae ymchwil yn awgrymu bod ffactorau risg genetig ac amgylcheddol yn cyfrannu at ddatblygiad y nodweddion hyn. Fodd bynnag, mae yna lawer nad ydyn ni'n ei ddeall o hyd am y nodweddion hyn.
Mae plant sydd ag agweddau rhag-gymdeithasol cyfyngedig yn gr?p llawer llai o blant sydd ag anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol neu anhwylder ymddygiad anghymdeithasol. Fodd bynnag, mae eu problemau ymddygiad yn gallu bod yn fwy difrifol a pharhaus.
Dylai'r person sy'n gweithio gyda'ch plentyn ddarganfod a oes gan eich plentyn agweddau rhag-gymdeithasol cyfyngedig. Mae hyn oherwydd y bydd hyn yn llywio'r math o ymyriadau rhianta a gynigir i chi. Er enghraifft, os oes gan eich plentyn agweddau rhag-gymdeithasol cyfyngedig, bydd yn ymateb yn well i wobrau nag i gosb. Felly, efallai y byddwch chi'n dysgu sgiliau sy'n ymwneud ? rhoi gwobrau i annog ymddygiad da.
Yn anffodus, anaml y bydd eglurhad syml dros ymddygiad plentyn. Mae'r achosion yn tueddu i fod yn gymhleth ac yn gysylltiedig ? sawl maes. Mae yna lawer o ffactorau a all wneud plant yn fwy tebygol o ddatblygu un o'r cyflyrau hyn. Gall y ffactorau hyn fod yn fiolegol, yn amgylcheddol, neu'n gyfuniad o'r ddau.
Ffactorau biolegol
Weithiau mae’r anhwylderau hyn yn rhedeg mewn teuluoedd. Dangoswyd hyn mewn astudiaethau gyda phlant wedi'u mabwysiadu yr oedd gan eu rhieni biolegol broblemau ymddygiad. Yn yr astudiaethau hyn, roedd gan rai o'r plant hyn fwy o broblemau ymddygiad na'u cyfoedion.
Fel y trafodwyd yn yr adran flaenorol, mae gan rai plant natur fwy pigog nag eraill. Mae'r plant hyn yn fwy tebygol o fod ? phroblemau ymddygiad na phlant sydd heb y nodweddion hyn.
Ffactorau amgylcheddol
Mae ffactorau amgylcheddol yn gysylltiedig ?'r amgylcheddau lle mae eich plentyn yn treulio amser. Mae ffactorau amgylcheddol a allai arwain at ddatblygu un o'r cyflyrau hyn yn cynnwys pethau fel:
- profi bwlio
- profi esgeulustod neu gam-drin ar hyn o bryd neu yn y gorffennol
- treulio amser gyda phlant eraill sydd ? phroblemau ymddygiad.
Nid yw'r ffaith bod plentyn yn profi un neu fwy o'r ffactorau hyn yn golygu y bydd yn bendant yn datblygu un o'r cyflyrau hyn.
Mae’r cyflyrau hyn yn eithaf cyffredin. Yn 2017, adroddwyd bod gan ychydig llai nag 1 o bob 20 o bobl ifanc rhwng 5 a 19 oed yn Lloegr anhwylder ymddygiad neu ymddygiad anghymdeithasol.
Gall anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol ac anhwylder ymddygiad anghymdeithasol ddigwydd yn aml ochr yn ochr ? chyflyrau iechyd meddwl neu niwroddatblygiadol eraill. Weithiau gellir drysu rhwng y cyflyrau eraill hyn ac anhwylderau ymddygiad trwy gamgymeriad.
Gall fod yn anodd darganfod a yw'r cyflwr arall hwn:
- yn achosi problemau ymddygiad eich plentyn
- neu'n digwydd ochr yn ochr ? phroblemau ymddygiad eich plentyn.
Mae'n bwysig bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio i ddeall y cysylltiad rhwng popeth oherwydd gall hynny helpu i sicrhau bod eich plentyn yn cael y driniaeth a'r gefnogaeth cywir.
Er enghraifft, os yw eich plentyn wedi dechrau dangos problemau ymddygiad ar ?l profi digwyddiad trawmatig, mae'n bwysig bod meddygon yn darganfod a yw'r ymddygiadau hyn yn cael eu hachosi gan anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Os felly, dylai trin a rheoli PTSD eich plentyn ddatrys y problemau ymddygiad.
Mae rhai o'r cyflyrau sy'n gallu achosi neu ddigwydd ochr yn ochr ? phroblemau ymddygiad yn cynnwys:
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
Gall plant sydd ag ADHD gael problemau gyda:
- dilyn cyfarwyddiadau
- aros ar eu heistedd
- canolbwyntio ar dasg.
Efallai bod gan eich plentyn broblemau ymddygiad sy'n gysylltiedig ?'i ADHD. Os felly, ni ddylai gael diagnosis o anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol neu anhwylder ymddygiad anghymdeithasol.
Os yw'ch plentyn yn mynd i helynt yn yr ysgol am dorri ar draws yn y dosbarth ac mae ganddo ADHD, bydd hyn yn symptom sy'n gysylltiedig ? byrbwylltra, sy'n symptom o ADHD. Bydd problemau ymddygiad yn cynnwys pethau fel dweud celwydd, taro neu ddwyn.
Anhwylderau hwyliau
Os yw eich plentyn yn gwrthod gwneud rhywbeth oherwydd:
- ei fod yn brin o egni
- nad yw mwyach yn mwynhau unrhyw beth
- ei fod yn anobeithio am y dyfodol
efallai bod ganddo gyflwr fel iselder. Os felly, ni fydd yn gwrthod gwneud rhywbeth oherwydd ei fod yn bod yn wrthwynebol.
Gorbryder
Os yw eich plentyn yn bryderus, er enghraifft os oes ganddo ffobia penodol, efallai y bydd yn ymddwyn mewn ffyrdd problemus pan fydd yn wynebu'r peth y mae'n ei ofni neu'n bryderus amdano. Bydd hyn oherwydd ei fod yn ceisio ei osgoi. Er enghraifft, os oes arno ofn y tywyllwch, efallai y bydd ei ymddygiad yn anodd tuag amser gwely. Os mai ffobia mae eich plentyn yn ei brofi, bydd yr ymddygiadau hyn yn diflannu os bydd y ffobia yn cael ei drin.
Fodd bynnag, os oes gan eich plentyn broblemau ymddygiad sydd ddim yn gwella pan gaiff y ffobia ei drin, yna gallai anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol neu anhwylder ymddygiad anghymdeithasol fod yn esboniad gwell am y problemau hyn.
Awtistiaeth
Mae awtistiaeth yn gyflwr niwroddatblygiadol. Mae’n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio ag eraill.
Mae plant awtistig yn fwy tebygol o brofi pigogrwydd na phlant eraill. Gallent hefyd gael pyliau o dymer neu golli arni os:
- dydyn nhw ddim yn gallu egluro sut maen nhw'n teimlo neu beth sydd ei angen arnyn nhw
- bydd eu trefn arferol yn newid
- ydyn nhw'n cael eu llethu gan fewnbynnau synhwyraidd o'u cwmpas, fel synau neu oleuadau.
Os yw'r pyliau o dymer yn gysylltiedig ? nodweddion craidd awtistiaeth ni fyddan nhw’n cael diagnosis o anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol nac anhwylder ymddygiad. Nod unrhyw driniaeth a chefnogaeth fydd ei gwneud hi'n haws iddyn nhw ymdopi ?'r sefyllfaoedd sy'n gwneud bywyd yn anodd iddyn nhw.
Casglu gwybodaeth gan wahanol bobl
Pan fydd eich plentyn yn cael ei asesu am anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol neu anhwylder ymddygiad anghymdeithasol, dylai'r person sy'n gwneud yr asesiad gasglu gwybodaeth gan:
- eich plentyn
- chi ac unrhyw rieni neu ofalwyr eraill
- ei athrawon
- unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy'n ei adnabod. Er enghraifft, gweithwyr ieuenctid.
Dylai’r wybodaeth hon ddod o nifer o leoliadau gan gynnwys:
- y cartref
- yr ysgol
- clybiau. Er enghraifft, clybiau ieuenctid neu glybiau ar ?l ysgol.
Deall y broblem
Mae meddygon yn galw hyn yn 'fformiwleiddio'r’ broblem. Gall hyn helpu i ddeall:
- y ffactorau bregusrwydd y mae eich plentyn yn eu hwynebu. Er enghraifft:
- os yw wedi bod yn bigog erioed
- os oes ganddo gyflwr arall. Er enghraifft, problemau niwroddatblygiadol, iechyd meddwl, neu gorfforol fel anafiadau i'r pen neu ffitiau.
- os oes ganddo anhawster dysgu
- os yw wedi cael ei fwlio neu os yw'n cael ei fwlio yn yr ysgol ar hyn o bryd.
- beth allai fod wedi sbarduno’r ymddygiadau. Er enghraifft, profi digwyddiad trawmatig, neu dreulio amser gyda ffrindiau problemus sydd hefyd ? phroblemau ymddygiad.
- pam mae'r ymddygiadau'n parhau. Er enghraifft, peidio ? thrin cyflwr a allai fod ar eich plentyn, neu rianta anghyson ac anghyfrannog.
Asesiadau risg a chynlluniau diogelwch
Dylai'r person sy'n asesu eich plentyn hefyd ystyried gwneud asesiad risg os yw ymddygiadau eich plentyn yn eu rhoi nhw neu eraill mewn perygl. Bydd yr asesiad yn helpu i sefydlu cynllun diogelwch clir. Dylid llunio'r cynllun ar y cyd gydag unrhyw un arall sy'n ymwneud ? gofal eich plentyn, megis ei ysgol.
Unwaith y bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi deall y meysydd uchod, byddant yn gallu gweithio gyda chi i greu cynllun. Cynllun rheoli yw’r enw am hwn. Bydd yn cynnwys y gwahanol fathau o driniaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch chi a'ch plentyn.
Dylai'r driniaeth a'r cymorth a gynigir i chi fod wedi'u personoli i chi. Dylen nhw ganolbwyntio ar y meysydd penodol sy'n peri problemau i chi, eich plentyn a'ch teulu.
Mae ymchwil dda iawn ar gael yn y maes hwn o seiciatreg plant a phobl ifanc. Dylai'r cymorth a gynigir i chi fod yn seiliedig ar ymchwil o ansawdd uchel bob amser.
Bwriad yr ymyriadau fydd cefnogi eich plentyn, chi ac unrhyw rieni eraill, a sut rydych chi'n rhyngweithio ?'ch gilydd. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
1. Cymorth i'ch plentyn
Seicoaddysg
Mae seicoaddysg yn cynnwys egluro wrth y plentyn neu'r person ifanc, mewn geiriau y mae'n gallu eu deall:
- beth y mae meddygon wedi'i ddeall wrth ei asesu
- a beth y gallan nhw ei wneud i helpu.
Gall gynnwys lluniau a darluniau, yn dibynnu ar oed eich plentyn.
Trin cyflyrau eraill
Fel rydyn ni wedi'i ddweud eisoes, dylai plant sydd ? chyflyrau eraill gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer y rhain. Ni ddylid gwrthod cymorth i blant ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl neu niwroddatblygiadol eraill oherwydd bod ganddyn nhw broblemau ymddygiad hefyd.
Weithiau bydd trin cyflyrau eraill yn ddigon i wella problemau ymddygiad. Er enghraifft, os yw plentyn sydd ? PTSD yn cael pyliau o dymer drwg pan fydd yn profi ?l-fflachiau gallai'r pyliau hyn ddiflannu unwaith y bydd ei PTSD wedi cael ei drin. Fodd bynnag, bydd angen mwy o gymorth ar blant ar adegau.
Efallai y bydd eich plentyn yn cael cynnig meddyginiaeth i drin y cyflyrau eraill hyn. Dylid rhoi gwybodaeth i chi a'ch plentyn am fanteision a sgil-effeithiau unrhyw feddyginiaeth.
Trin nodweddion eraill
Hyd yn oed os nad yw eich plentyn yn cael diagnosis o anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol neu anhwylder ymddygiad anghymdeithasol, mae'n dal yn bosibl y bydd ganddo rai nodweddion fel y rhai yn y rhestr isod. Gallai cefnogaeth fod o fudd yn yr achos hwn hefyd:
Sgiliau cymdeithasol gwael
Gall gweithio ar sgiliau cymdeithasol helpu eich plentyn i:
- ryngweithio mwy ? phobl eraill
- mynd i mewn i sefyllfaoedd gr?p
- dechrau sgyrsiau
- rhannu ag eraill
- gofyn cwestiynau yn gwrtais
- gwrando a thrafod.
Sgiliau datrys problemau gwael
Mae therapi datrys problemau yn ymyrraeth fer. Mae'n cynnwys adnabod problemau sydd gan eich plentyn a'i ddysgu sut i'w datrys yn briodol.
Rheolaeth wael ar hwyliau negyddol
Gall gweithio ar reoleiddio emosiynau helpu eich plentyn i:
- ffrwyno ei hunanreolaeth
- lleihau newidiadau mawr mewn hwyliau a thueddiad i ffrwydro
- ystyried sut orau i ymateb mewn sefyllfaoedd cynhyrfiol.
Afluniadau gwybyddol a hunanwerthuso anghywir
Gall therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) helpu eich plentyn i ddeall ei hun ac eraill yn well.
Mae CBT fel arfer yn cynnwys tri cham:
- Bydd therapydd yn gweithio gyda'ch plentyn i'w helpu i ddeall mwy am ei feddyliau, ei ymddygiad a'i hwyliau ei hun, a'r cysylltiadau rhwng y pethau hyn.
- Bydd y therapydd yn gweithio gyda'ch plentyn i adnabod meysydd y mae eisiau eu gwella.
- Bydd y therapydd yn cefnogi eich plentyn i ddysgu ac ymarfer patrymau newydd o feddwl ac ymddwyn, ac i weld beth fydd effaith y rhain.
Hybu cryfderau
Mae'n bwysig iawn hybu cryfderau a galluoedd eich plentyn. Gallwch hefyd ei rymuso i ymgymryd ? hob?au a gweithgareddau lle mae'n gallu defnyddio'r cryfderau hyn. Er enghraifft, ymuno ? th?m chwaraeon neu ddosbarth arlunio, yn dibynnu ar ba bethau y mae'n eu mwynhau. Gall hyn gynyddu ymdeimlad eich plentyn o gyflawniad, hunan-barch a gobaith ar gyfer y dyfodol.
2. Cymorth i rieni
Fel rhiant, mae'n debyg mai cael cymorth i'ch plentyn fydd eich prif ffocws. Fodd bynnag, rydych chi ac unrhyw oedolion eraill sy'n ymwneud ? bywyd eich plentyn yn haeddu cymorth hefyd. Mae'n bwysig bod y bobl sy'n gweithio gyda chi a'ch plentyn yn adnabod meysydd lle y gallai fod angen cymorth arnoch chi. Gallai'r rhain ei gwneud hi'n haws i chi gefnogi eich plentyn gyda'i broblemau ymddygiad.
Gallai hyn olygu ceisio cymorth ar gyfer problemau iechyd corfforol neu feddyliol, neu gael cymorth os ydych chi'n cael trafferthion ariannol neu drafferthion tai.
Ai fy mai i yw problemau ymddygiad?
Efallai y bydd y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda chi a'ch plentyn eisiau dysgu mwy am eich rhianta. Nid yw hyn oherwydd eu bod yn credu bod problemau ymddygiad eich plentyn yn cael eu hachosi gan eich rhianta. Byddant yn ymwybodol bod llawer o resymau dros broblemau ymddygiad eich plentyn, a bod rhai o'r rhesymau hyn o bosibl allan o'ch rheolaeth chi yn llwyr.
Os cewch eich atgyfeirio am asesiad, bydd y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda chi a'ch plentyn yn ceisio llunio cynllun ymyrraeth. Bydd hwn yn ystyried yr holl bethau gwahanol a allai fod yn gysylltiedig ag ymddygiad eich plentyn, gan gynnwys:
- edrych ar rai agweddau ar eich rhianta a gweld a oes pethau y gallech chi eu newid
- darganfod a oes gan eich plentyn broblemau eraill sy'n effeithio ar ei ymddygiad. Er enghraifft, cyflyrau niwroddatblygiadol (fel ADHD neu awtistiaeth) neu broblemau yn yr ysgol.
Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eich cefnogi chi fel rhiant i ddod yn 'gyd-therapydd'. Dylen nhw wneud hyn trwy ddysgu am eich cefndir a'ch syniadau ynghylch rhianta. Gall hyn fod yn rhan allweddol o driniaeth.
Er enghraifft, bydd ymateb rhiant sydd o natur dawel i ymddygiad herfeiddiol yn wahanol iawn i ymateb rhiant sy'n bryderus neu'n nerfus. Mae gwybod hyn yn gallu helpu i wella'r dull o drin eich plentyn.
3. Cefnogaeth i'r berthynas rhiant-plentyn
Mae ein perthnasoedd i gyd yn ddwyffordd. Yn aml, mae gan rieni a phlant bersonoliaethau gwahanol sy'n rhyngweithio ?'i gilydd mewn gwahanol ffyrdd. Mae ymyriadau rhianta yn galluogi rhieni i:
- gryfhau eu perthynas ?'u plentyn
- a rheoli problemau ymddygiad yn hyderus trwy addasu eu harddull rhianta.
Mae llawer o wahanol fathau o raglenni a therap?au ar gael ar gyfer ymdrin ? phroblemau ymddygiad. Dim ond y rhai sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu hargymell gan y dylid eu cynnig i chi. Bydd y math o raglen a gynigir i chi yn dibynnu ar beth sydd ar gael lle rydych chi'n byw.
Yn dibynnu ar oed eich plentyn, efallai y byddwch chi'n cymryd rhan mewn rhaglen ar eich pen eich hun (gydag unrhyw rieni neu ofalwyr eraill sy'n ymwneud ? gofal eich plentyn). Neu efallai y byddwch chi'n cymryd rhan mewn rhaglen gyda'ch plentyn. Efallai y bydd plant h?n hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglenni neu therap?au ar eu pen eu hunain.
Ar gyfer plant iau
Os yw eich plentyn rhwng 3 ac 11 oed, efallai y cewch gynnig rhaglen hyfforddi rhieni. Bydd hyn yn digwydd gyda therapydd, a gallai fod:
- fel rhan o gr?p o rieni eraill
- un-i-un gyda chi ac unrhyw rieni neu ofalwyr eraill
Mae yna rai rhaglenni unigol lle byddwch chi a'ch plentyn yn cymryd rhan mewn sesiynau gyda'ch gilydd. Yn y rhain, bydd y therapydd yn eich hyfforddi chi'n uniongyrchol wrth i chi chwarae gyda'ch plentyn.
Nod y rhaglenni hyfforddi hyn yw cryfhau eich sgiliau rhianta. Gall hyn helpu i gynyddu ymddygiadau cymdeithasol a defnyddiol eich plentyn. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, ac yn cael eich cefnogi i gryfhau sgiliau sydd gennych chi eisoes. Gyda'r therapydd, cewch eich cefnogi i:
- fynegi diddordeb, cynhesrwydd a chymeradwyaeth pan fydd eich plentyn yn arddangos ymddygiadau priodol
- anwybyddu ymddygiadau amhriodol mewn modd diogel.
Efallai bod y rhain yn bethau rydych chi eisoes wedi ceisio eu gwneud ar eich pen eich hun. Gall rhaglen hyfforddi helpu trwy roi mynediad i chi at gefnogaeth rhywun sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig mewn problemau ymddygiad.
Dyma ddwy enghraifft o'r rhaglenni hyn:
Hyfforddiant Rhianta Unigol Personol (PIPT)
Mae hyfforddiant PIPT yn golygu y byddwch chi a'ch plentyn yn bresennol mewn sesiynau. Bydd eich therapydd yn eich hyfforddi chi yn uniongyrchol wrth i chi chwarae gyda'ch plentyn. Bydd yn eich helpu i gryfhau'r berthynas ?'ch plentyn a dysgu sut y gallwch chi ddefnyddio technegau a syniadau newydd. Fel arfer, cewch gynnig wyth apwyntiad, er efallai y cynigir mwy yn dibynnu ar eich anghenion chi a'ch plentyn.
Ymyrraeth drwy Adborth Fideo i hyrwyddo Rhianta Cadarnhaol a Disgyblaeth Sensitif (VIPP-SD)
Bydd VIPP-SD yn eich helpu i ofalu am eich plentyn trwy adeiladu perthynas gref ag ef neu hi, a gweld y byd trwy ei lygaid. Byddwch yn treulio amser gyda'ch plentyn, a bydd hyn yn cael ei recordio. Byddwch wedyn yn gwylio'r recordiad hwn i ddysgu mwy am eich rhianta a sut mae eich plentyn yn ymateb i'ch rhianta.
Fel arfer, cynigir hyd at saith apwyntiad i chi, pob un yn para tua 90 munud. Gall y sesiynau hyn ddigwydd mewn lleoliad clinigol (fel swyddfa therapydd) neu yn eich cartref eich hun.
Ar gyfer pobl ifanc
Gall plant h?n elwa o:
Therapi sy'n canolbwyntio ar y teulu
Mae hwn yn therapi i’r teulu cyfan. Yn dibynnu ar y math o therapi, mae'n canolbwyntio ar un neu fwy o'r pethau canlynol:
- helpu'r teulu i newid unrhyw batrymau gwrthgynhyrchiol sydd ganddyn nhw
- defnyddio ymyriadau strategol i ddatrys problemau uniongyrchol yn gyflym
- deall a newid swyddogaeth ymddygiadau mewn dynameg teulu.
Mae rhai enghreifftiau o therapi sy'n canolbwyntio ar y teulu yn cynnwys Therapi Teulu Strategol (SFT) neu Therapi Teulu Swyddogaethol (FFT).
Therapi aml-ddull
Mae hwn yn cynnwys y teulu a'r gymuned. Un enghraifft o hyn yw therapi aml-systemig (MST).
Mae MST yn ymyrraeth ddwys sy'n digwydd yn y cartref ac yn edrych ar wahanol 'systemau'. Mae’r systemau hyn yn cynnwys:
- y teulu ei hun
- ysgol eich plentyn
- cyfoedion eich plentyn
- eich cymuned ehangach.
Gall deall y systemau hyn helpu i fynd i'r afael ? phroblemau ymddygiad difrifol mewn pobl ifanc sy’n arddangos ymddygiadau risg uchel. Mae MST yn digwydd yn amlach na therapi arferol, weithiau mor aml ? 3 neu 4 gwaith yr wythnos dros gyfnod o 3 i 5 mis.
Arall
Gwrthwynebiad di-drais
Mae gwrthwynebiad di-drais wedi ei gynllunio ar gyfer plant sy'n arddangos lefelau uchel o ymddygiad ymosodol. Mae'n gallu helpu i fynd i'r afael ? sut i ymateb i ymddygiadau treisgar yn y cartref. Mae'n canolbwyntio ar sefydlu ymateb cyson ac unedig gan bob rhiant a gofalwr.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu ?’r Cyhoedd ar faterion Plant a Theuluoedd (CAFPEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (萝莉视频). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Awdur arbenigol: Dr Carmen Pinto
Mae ffynonellau llawn ar gyfer yr adnodd hwn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (Aug 2025)