萝莉视频

Croesawu cynrychiolwyr newydd Rhwydwaith Meddygon SAS

Newyddion Cymru
20 August 2025

Mae CBSeic Cymru yn falch o gyhoeddi bod cynrychiolwyr Rhwydwaith Meddygon Arbenigol ac Arbenigwyr Cyswllt (SAS) wedi'u penodi i Fyrddau Iechyd Lleol.

Y cynrychiolwyr yw:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Dr Nino Curatola
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Dr Neha Garg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – Dr Anjana Reddy
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Dr Hemma Sungum
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Dr Madappa Viswanath
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Dr Gathoni Kamau
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – I'w gadarnhau


Mae’r Rhwydwaith SAS wedi'i sefydlu i gryfhau cysylltiadau rhwng seiciatryddion SAS ledled Cymru, gan gynnig llwyfan ar gyfer cydweithio, cefnogaeth gan gymheiriaid, a dysgu ar y cyd.

Lansiwyd y Rhwydwaith yn ffurfiol ddydd Gwener 9 Mai yng nghynhadledd gyntaf Rhwydwaith SAS CBSeic Cymru. Roedd y digwyddiad hwn yn garreg filltir bwysig wrth gydnabod a chefnogi'r cyfraniad gwerthfawr y mae seiciatryddion SAS yn ei wneud i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Alka Ahuja MBE, Cadeirydd CBSeic Cymru:
“Rydym wrth ein bodd yn croesawu ein cynrychiolwyr newydd, a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod lleisiau seiciatryddion SAS yn cael eu clywed a’u cefnogi ledled Cymru. Bydd eu harweinyddiaeth yn helpu i feithrin cydweithio a datblygiad proffesiynol o fewn yr arbenigedd.
“Mae sefydlu’r Rhwydwaith hwn, a phenodi cynrychiolwyr ymroddedig, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i werthfawrogi, cydnabod a chefnogi seiciatryddion SAS yn eu gyrfaoedd. Edrychwn ymlaen at gydweithio i gryfhau eu cyfraniad a gwella gofal cleifion.”

Os hoffech chi gymryd rhan yng ngweithgareddau SAS yn y coleg, cysylltwch ? Dr Alison Shaw neu Dr Jacqueline Palmer drwy e-bost.

For further information, please contact: