Mae CBSeic Cymru wedi croesawu lansiad ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar ei , gan ei ddisgrifio fel cyfle pwysig i lunio dyfodol gwasanaethau a chymorth dementia ein cenedl.
Diben y ddogfen ddrafft yw darparu ymgysylltiad cynnar ar gynnwys y Strategaeth Dementia terfynol, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026. Mae CBSeic Cymru yn annog ei aelodau a randdeiliaid eraill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyfrannu eu barn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi saith maes blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt ar gyfer y strategaeth nesaf, gan gydnabod pwysigrwydd dull system gyfan:
- Lleihau risg ac atal dementia
- Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia
- Gwella diagnosis, triniaeth, gofal a chymorth dementia
- Cefnogi gofalwyr di-d?l pobl sy’n byw gyda dementia
- Cefnogi’r gweithlu
- Cefnogi ymchwil ac arloesi ym maes dementia
- Trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd addas er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cael ei chyflawni
Mae CBSeic Cymru yn croesawu’n arbennig ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyd-gynhyrchu’r Strategaeth Dementia newydd ac i ganiatáu digon o amser ar gyfer ymgysylltu’n ystyrlon ? phartneriaid a phobl sydd ? phrofiad byw drwyddo draw.
Dywedodd yr Athro Sharmi Bhattacharyya, Cadeirydd Cyfadran Seiciatreg yr Henoed CBSeic Cymru:
“Rydym yn croesawu’r ymgynghoriad hwn yn fawr a’r ymrwymiad clir i gyd-gynhyrchu sy’n sail iddo. Mae dementia yn effeithio ar unigolion, teuluoedd, gofalwyr a chymunedau ledled Cymru, ac mae’n hanfodol bod lleisiau pobl sydd ? phrofiad byw, ochr yn ochr ? chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol, yn ganolog i lunio’r strategaeth derfynol. Mae hwn yn gyfle hollbwysig i osod cyfeiriad uchelgeisiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer gofal a chymorth dementia dros y degawd nesaf.”
Mae CBSeic Cymru yn parhau i chwarae r?l weithredol yn y gwaith o wella gofal a pholisi dementia yng Nghymru, gan gynnwys gwaith sydd wedi llywio'r strategaeth ddrafft a fydd yn llunio’r fersiwn terfynol.
Mae hyn yn cynnwys datblygu Llwybr Gofal a Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Dementia i wella diagnosis cynnar, mynediad at driniaeth a chysondeb gofal ledled Cymru. Cefnogir y gwaith hwn gan y Ganolfan Gydweithredol Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCCMH), Cymdeithas Alzheimer Cymru a gr?p cyfeirio arbenigol amlddisgyblaethol. Rydym hefyd yn falch o fod yn aelod o Gr?p Gofal Dementia a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 3 Ebrill 2026. Edrychwn ymlaen at ymateb maes o law a pharhau i gydweithio ?'n haelodau, Llywodraeth Cymru a phartneriaid i wella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru.
For further information, please contact:
- Email: dafydd.huw@rcpsych.ac.uk
- Web: /wales
- Contact Name: Dafydd Huw
- Twitter:
- Out-of-hours contact number: 02922 33 1080