萝莉视频

Defnyddia dy Gymraeg

Newyddion Cymru
28 November 2025

Mae CBSeic Cymru yn falch o gefnogi ymgyrch  Comisiynydd y Gymraeg sy’n digwydd rhwng 24 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2025.

Dyma ymgyrch flynyddol sy'n rhoi cyfle i sefydliadau o bob math ar draws Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg. Y mae hefyd hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb. Pan fydd pobl yn profi afiechyd, mae’n hanfodol eu bod yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth yn yr iaith sy’n diwallu eu hanghenion orau. Mae hyn yn cynnwys mynediad i wasanaethau iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi sefydlu partneriaeth newydd gyda’r , gan alluogi criw o seiciatryddion i ymgymryd ? chyrsiau blasu am ddim wedi’i theilwra ar gyfer meddygon. Rydym yn ddiolchgar i’r t?m yn Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin am eu cefnogaeth ac am ysbrydoli ein haelodau i barhau ar eu taith iaith.

Dywedodd Is-gadeirydd CBSeic Cymru, Dr Izabella Jurewicz:

“Ymunais ?’r cwrs blasu heb fod yn hollol si?r beth i’w ddisgwyl. Ar ?l byw yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, roeddwn i’n awyddus i ddysgu rhywbeth am yr iaith. Pan awgrymodd fy nhiwtor Cymraeg i mi ddarllen yr holl arwyddion Cymraeg yn yr ysbyty, agorodd hyn fy llygaid i fyd gwahanol. Mae cymaint o Gymraeg allan yna, nid yw'n anodd ymgyfarwyddo ? hi. Roedd cyflymder y cwrs yn dda iawn ac roedd digon o ailadrodd i adeiladu fy sgiliau. Roedd y tiwtoriaid llawn hwyl ac yn galonogol iawn. Roedd y cwrs yn ymdrin ag ymadroddion cyffredin y byddai eu hangen ar seiciatrydd i dawelu meddwl siaradwr Cymraeg ac roedd y cynnwys wedi’i deilwra i’n hanghenion ni. Diolch am gynnig y cyfle hwn!”


Law yn llaw ? hyn, fe lansiwyd y  gan Lywodraeth Cymru a’r Ganolfan yn gynharach eleni. Dyma gwrs sydd wedi’i thargedu yn benodol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu, ac rydym yn falch o’i hyrwyddo.

Nid oes cyfle gwell wedi bod i ddechrau dysgu a defnyddio eich Cymraeg!

Dros y flwyddyn nesaf, edrychwn ymlaen at weithio i ehangu'r gwasanaethau Cymraeg rydym eisoes yn cynnig i’n haelodau, gan fawr obeithio dderbyn cymeradwyaeth gan y Comisiynydd.

Mae ystod eang o adnoddau gwybodaeth iechyd meddwl bellach ar gael ar ein gwefan yn Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys adnoddau ar:

  • Awtistiaeth ac iechyd meddwl
  • Anhwylder gamblo
  • Cysgu’n dda
  • Iselder
  • Hunan-niweidio
  • Seicosis
  • Sgitsoffrenia
  • Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)

Cysylltwch am ragor o wybodaeth.

For further information, please contact: