17 June 2025
Mae gan ein haelodau ystod amrywiol o safbwyntiau ar egwyddor CiF/H?Ch, ond rydym wedi datblygu consensws na allwn gefnogi'r Bil yn ei ffurf bresennol.
Yn benodol, mae gennym y naw barn ganlynol mewn perthynas ?'r Bil:
- Mae salwch terfynol yn ffactor risg ar gyfer hunanladdiad: Mae gorgyffwrdd sylweddol rhwng y boblogaeth sy'n dioddef o salwch terfynol a'r rhai sy'n hunanladdol – ni ellir gwahanu'r grwpiau poblogaeth hyn yn daclus. Os daw'r Bil yn gyfraith, mae angen iddo nodi'n glir sut a phryd y byddai clinigwr yn cael ei ystyried i fod wedi cyflawni ei ddyletswydd gofal i'r rhai sydd mewn perygl o hunan-niweidio neu hunanladdiad o dan ddeddfwriaeth a chodau ymarfer presennol.
- Dylai fod gofyniad am asesiad cyfannol o angen heb ei ddiwallu: Gall anghenion y gellir eu trin fel poen annioddefol, caledi ariannol a gofal neu dai annigonol wneud i berson fod eisiau marw. Eto i gyd, nid yw'r Bil yn gwneud unrhyw ddarpariaeth i asesu anghenion heb eu diwallu nac i ymgynghori ag eraill sy'n ymwneud ? gofal neu fywyd y person.
- Nid yw CiF/H?Ch yn driniaeth: Nid yw CiF/H?Ch yn anelu at wella iechyd person a'i ddiben bwriadedig yw marwolaeth. Nid yw'r Bil yn nodi a ystyrir CiF/H?Ch yn opsiwn triniaeth, ac mae gan yr amwysedd hwn oblygiadau mawr yn y gyfraith. Os bydd y Bil yn mynd rhagddo, dylid ei gwneud yn glir nad yw CiF/H?Ch yn opsiwn triniaeth.
- Nid yw'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn darparu fframwaith ar gyfer asesu penderfyniadau ynghylch dod ? bywyd rhywun i ben: Cr?wyd y Ddeddf Galluedd Meddyliol i ddiogelu a chefnogi pobl nad oes ganddynt y gallu i wneud penderfyniadau am eu gofal, eu triniaeth neu faterion fel cyllid. Pe bai'r Bil yn dod yn gyfraith, mae angen ystyried y goblygiadau ar gyfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Sut fyddai clinigwyr yn asesu'r math newydd o alluedd sydd wedi'i fframio yn y Bil i benderfynu dod ? bywyd i ben? Sut fyddai clinigwyr yn amddiffyn ac yn grymuso pobl ? salwch terfynol i benderfynu a ddylent ddod ?'u bywydau i ben ai peidio, tra ar yr un pryd yn cadw'r rhai sydd mewn perygl o hunanladdiad yn yr ysbyty fel y gellir eu trin ar frys?
- Nid yw'n glir beth fyddai r?l seiciatrydd ar banel amlddisgyblaethol: Os bydd y Bil yn mynd yn ei flaen, dylai unrhyw r?l y mae seiciatrydd yn ei chwarae mewn proses CiF/H?Ch fod yn gyson ? dyletswyddau craidd y proffesiwn, gan gynnwys penderfynu a ellir unioni neu drin dymuniad person i farw.
- Nid oes digon o seiciatryddion ymgynghorol i wneud yr hyn y mae'r Bil yn ei ofyn: Fel y mae pethau ar hyn o bryd, nid oes gan wasanaethau iechyd meddwl yr adnoddau sydd eu hangen i ddiwallu ystod newydd o ofynion. Rhaid inni edrych ar yr hyn sy'n cael ei gynnig yn Bil yng nghyd-destun y galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl a phrinder gweithlu.
- Rhaid i weithwyr proffesiynol allu gwrthwynebu’n gydwybodol i gymryd rhan mewn unrhyw ran o’r broses: Rydym yn falch o weld nad yw’r Bil bellach yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr meddygol proffesiynol nad ydynt am gymryd rhan gyfeirio person at glinigwr arall, ond mae’n dal yn ofynnol iddynt gyfeirio cleifion at wybodaeth am GiF/H?Ch. I rai seiciatryddion sy’n dymuno gwrthwynebu’n gydwybodol, byddai hyn yn gyfystyr ? bod yn rhan o’r broses CiF/H?Ch.
- Mae angen gosod safonau proffesiynol a sicrhau goruchwyliaeth gadarn: Byddai angen i unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n ymwneud ag asesiadau ar gyfer CiF/H?Ch fod ? phrofiad a hyfforddiant digonol, a chael ei oruchwylio'n annibynnol. Byddai angen trefniadau i reoleiddio eu hymarfer, eu goruchwyliaeth a'u gwerthusiad.
- Ni ddylai effeithiau corfforol anhwylder meddwl wneud person yn gymwys ar gyfer CiF/H?Ch: Rhaid i’r Bil eithrio effeithiau corfforol anhwylder meddwl, fel anorecsia neu ddementia, fel sail ar gyfer cymhwysedd ar gyfer CiF/H?Ch. Ni ddylid ystyried bod person yn gymwys ar sail cymhlethdodau corfforol difrifol anhwylder meddwl a fyddai'n arwain at farwolaeth pe na bai'n cael ei drin.
Er gwaethaf ein naw pryder ynghylch y Bil, rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol ar CiF/H?Ch gynnwys, o leiaf, y ddau agwedd hanfodol canlynol.
- Darparu gwybodaeth yn y Gymraeg: Rydym yn croesawu bod y Bil wedi'i ddiwygio i ddarparu ar gyfer darparu gwybodaeth yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Fodd bynnag, mae angen rhoi sylw i fynd i'r afael ?'r prinder sylweddol o seiciatryddion sy'n siarad Cymraeg, ochr yn ochr ? chynyddu gwasanaethau diagnostig ac asesu.
- Pwerau Cychwyn i Weinidogion Cymru: Rydym yn croesawu bod y Bil wedi'i ddiwygio i roi pwerau cychwyn i Weinidogion Cymru ac i ddatgymhwyso'r cyfnod cychwyn pedair blynedd ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn sicrhau y gellir parchu canlyniad pleidlais y Senedd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Wedi dweud hynny, rhaid rhoi ystyriaeth lawn a manwl i faterion trawsffiniol posibl a allai ddeillio o gychwyn y ddeddfwriaeth ar wahanol adegau.