萝莉视频

Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Cenedlaethol

Mae Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn fenter gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru i hyrwyddo ymchwil, arloesi, ac ymwybyddiaeth o broblemau Iechyd Meddwl ledled Cymru.Cynlluniwyd y rhaglen genedlaethol i annog pobl ifanc i wneud a chyflwyno ymchwil sy'n canolbwyntio ar faterion Iechyd Meddwl cyfredol. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar sail gwreiddioldeb eu hymchwil ac ansawdd cyflwyniad eu prosiect.

Mae mynegiadau o ddiddordeb ar gyfer 2025/26 bellach ar agor. Cwblhewch y (sydd ar gael yn Gymraeg) a byddwn yn cysylltu ? chi gyda rhagor o wybodaeth.

Llinell amser

  • Dylid derbyn pob datganiad o ddiddordeb erbyn 12 Rhagfyr 2025.
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 20 Chwefror 2026.
  • Cyhoeddir y ceisiadau buddugol ym mis Mawrth 2026.

Cwestiynau Cyffredin

Dyma ychydig o fanylion am y wobr, tra bydd gwybodaeth bellach a ffurflenni yn cael eu dosbarthu’n uniongyrchol unwaith y bydd datganiadau o ddiddordeb wedi’u cofrestru trwy lenwi’r blwch glas golau ar ochr dde’r sgrin. Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau pellach at Dafydd Huw.

 

Mae'r gwobrau yn agored i unrhyw fyfyrwyr ym mlynyddoedd 12 a 13.

Nid oes cyfyngiad ar faint o waith myfyrwyr y gellir ei gyflwyno o ysgol unigol.

Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno crynodeb o’u hymchwil ynghyd ? methodoleg ysgrifenedig a chanlyniadau.

Gellir cyflwyn adran drafodaeth yr ymchwil mewn unrhyw fformat a ddewisir gan y myfyriwr/myfyrwyr. Er enghraifft, gallai hwn fod yn adroddiad ysgrifenedig, cyflwyniad PowerPoint, poster, fideo, podlediad, neu gyfuniad.

Croesawir cyflwyniadau yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae yna nifer o opsiynau gwahanol, ac mae llawer yn dibynnu ar y pwnc ymchwil sy'n cael ei ystyried.

Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys adolygiadau llenyddiaeth, archwiliadau, cyfweliadau neu adroddiadau.

Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar sail gwreiddioldeb eu hymchwil ac ansawdd cyflwyniad eu prosiect. Bydd y meini prawf beirniadu yn cael ei rannu gydag ymgeiswyr.

Bydd gwaith yr enillydd yn cael ei arddangos yng Nghynhadledd Academaidd Coleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru, Cymdeithas Seiciatrig Cymru, a'r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol.

Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn cerdyn rhodd gwerth ?100.

Bydd y ceisiadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu harddangos ar wefan y Coleg.

Gallwch wneud cyflwyniadau fel unigolyn neu fel gr?p (uchafswm o bump o bobl).

Gofynnwn i chi gofrestru diddordeb trwy lenwi'r ffurflen ddigidol yn y blwch glas golau, a bydd yr holl bapurau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol.

Enillydd 2024/25

Dyma ymchwil fuddugol 2024/25. Mae'r datganiad i'r wasg cysylltiedig yn cynnwys yr astudiaeth a gynhaliwyd gan Jess.

Cyfryngau Cymdeithasol a'n Hiechyd Meddwl: Persbectif Myfyriwr

 

Jess Groves, disgybl blwyddyn 10 o Ysgol Santes Ffraid, Sir Ddinbych, yw enillydd ein Gwobr Ymchwil Genedlaethol Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar gyfer 2024/25.

Canolbwyntiodd ymchwil Jess ar effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc, a sut mae wedi'i gynllunio i fod yn gaethiwus.

Mae ei hastudiaeth ar gael trwy'r datganiad i'r wasg cysylltiedig: Gwobr Ymchwil Genedlaethol Iechyd Meddwl Pobl Ifanc CBSeic Cymru 2024/25

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry